Oes gennych chi syniad am berfformiad celfyddydau awyr agored? Bydd Articulture a phartneriaid Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i gynnig tri chomisiwn newydd i artistiaid yng Nghymru sy’n awyddus i greu celfyddydau awyr agored a mynd â nhw ar daith.
Bydd o leiaf un o’r tri chomisiwn yn cael ei roi i artist sy’n ystyried ei hun yn Fyddar, anabl ac/neu’n niwrowahanol.
Beth sy’n cael ei gynnig?
- Gall Artistiaid wneud cais am hyd at £6000.
- Cymorth gan gynhyrchydd, mentor a gweithiwr marchnata proffesiynol.
- Cyllid i archwilio a sicrhau gwell hygyrchedd i gynulleidfaoedd.
- Cyfle i ymweld â gŵyl gelfyddydau awyr agored sefydledig.
Mae Articulture yn arbennig o awyddus i glywed am syniadau:
- Perfformiadol ac/neu ryngweithiol.
- Gan artistiaid sy’n ystyried eu hunain yn Fyddar, anabl a/neu’n niwrowahanol.
- Sydd wedi ystyried sut i sicrhau hygyrchedd.
Gofynion:
- Os yw’r gwaith yn cynnwys rhannau llafar, mae’n rhaid iddynt gael eu cyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, neu gall fod yn Gymraeg yn unig.
- Mae’n rhaid i’r prif artist fod wedi ei leoli yng Nghymru, a dylai’r gwaith fod wedi ei fwriadu ar gyfer yr awyr agored.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Ar ôl gwirio eich bod yn gymwys i ymgeisio, y cam nesaf yw cysylltu ag Articulture a fydd yn helpu i archwilio eich syniad ac os bydd angen, cynorthwyo gyda’ch cais.
Gallwch gymryd rhan yn y sesiynau Zoom opsiynol i ddysgu mwy ynglŷn â sut i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a Disgrifiad Sain yn eich gwaith – cofrestrwch yma.
Pan fyddwch yn barod, llenwch y ffurflen gais neu gwnewch gais drwy fideo neu sain. Bydd angen i chi ddarparu cyllideb a gallwch gynnwys unrhyw ddogfennau ychwanegol i’n helpu ni ddychmygu’r hyn rydych yn ei gynnig.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw hanner dydd, ddydd Gwener 2 Chwefror.
Pryd fyddaf yn clywed am ganlyniad fy nghais?
Bydd Articulture yn rhoi gwybod i chi erbyn 23 Chwefror 2024 os ydych wedi cael eich dewis a byddwch yn dechrau datblygu eich syniad o 4 Mawrth, gyda chymorth y tîm. Bydd angen i chi fod yn barod ar gyfer ymarfer cyhoeddus erbyn dechrau mis Mai ac yn barod i fynd ar daith erbyn dechrau mis Mehefin. Sut ydw i’n cysylltu â chi? Os oes gennych syniad a’ch bod yn ystyried gwneud cais am gomisiwn neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Articulture i ddweud helô.
Gallwch wneud hyn drwy e-bost, ffonio, neges destun neu WhatsApp:
- E-bost – julieann@articulture-wales.co.uk
- Ffôn (galwad neu neges destun) – 07890 681212
Neu ar Instagram, Facebook neu Twitter (X)
Enghreifftiau o gomisiynau blaenorol
Mae Articulture yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’ch cefndir neu’ch profiad.
Gallwn drefnu i chi siarad â rhywun yn Gymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain, a byddwn yn cydweithio’n agos â Taking Flight i’n helpu ni ddarparu cymorth ar gyfer eich proses ymgeisio os ydych yn ystyried eich hun yn Fyddar, Anabl a/neu’n niwrowahanol. Siaradwch â ni ynghylch eich anghenion mynediad
Cefnogir #AgorAllan2024 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.