Tîm
Mae Articulture yn dîm bach sydd ag uchelgeisiau mentrus ar gyfer celfyddydau awyr agored yng Nghymru.
Mae Articulture yn dîm bach sydd ag uchelgeisiau mentrus ar gyfer celfyddydau awyr agored yng Nghymru.
Mae Annie yn Rheolwr Digwyddiad ffrilans gyda 25 mlynedd o brofiad yn trefnu a chreu digwyddiadau – o wyliau celfyddydol a chymunedol i lansio sioeau masnach greadigol, o brosiectau rhyngwladol i ‘ddigwyddiadau’ cymunedol lleol. Hi yw aelod sefydlu Articulture ac mae’n credu’n frwd mewn creu mynediad i’r celfyddydau i bawb. Mae ei chyflogaeth flaenorol yn cynnwys Swyddog Rhyngwladol gyda Lewisham, Bwrdeistref Llundain, ac fe enillodd wobrau helaeth yno, ac yn fwy diweddar fel Swyddog Gwyliau a Digwyddiadau ym Mhowys. Ar hyn o bryd, mae ganddi ofalaeth dros y sinema annibynnol ‘The Magic Lantern’ yn Nhywyn, Gwynedd.
annie@articulture-wales.co.uk
Mae Julie Ann Heskin yn wneuthurwraig propiau, yn baentiwr golygfeydd ac yn rheolwr cynhyrchiad gan weithio am 25 years i gwmnïau megis Glyndebourne Festival Opera, The Library Theatre, The Octagon Bolton, Contact ac The Royal Exchange, yn ogystal â theatr ieuenctid a chynyrchiadau theatr ysgol. Fe wnaeth gyfarfod â Walk The Plank tra’n gweithio yn seremoni cau Gemau’r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002 ac yna aeth ymlaen i ddarganfod ei chariad at theatr yr awyr agored gan weithio ar eu cwch theatr The Fitzcarraldo. Ers symud i Gymru yn 2006, mae wedi parhau i wneud pypedau a setiau paent ar gyfer sefydliadau megis Opera Canolbarth Cymru yn Opera Cymru, yn ogystal â rhedeg busnes clustogwaith ar archeb.
julieann@articulture-wales.co.uk
Mae Sarah Morton wedi gweithio yn niwydiant digwyddiadau, celfyddydau ac adloniant am dros 30 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys fel rheolwr llwyfan Covent Garden piazza ar gyfer Alternative Arts yn yr 80au‚ lle wnaeth hefyd raglenni gwyliau stryd Ewropeaidd a’r gwyliau expo ; gweinyddu Circus UK, sef mudiad wnaeth ddylanwadu’n fawr ar fudiad y syrcas newydd ym Mhrydain; ac fe wnaeth gyfarwyddo gŵyl gelfyddydol gymunedol mawr ar gyfer Lewisham, Bwrdeistref Llundain am dros 20 mlynedd, yn ogystal â gwaith gorymdeithiol ar draws Prydain. Wedi ei geni a bellach wedi ei lleoli yng Nghymru, mae’n aelod sefydlu o Articulture, ac yn gweithio ar amryw o gamau cyntaf celfyddydol yn y wlad, gan gynnwys Cyfarwyddwr Fforwm Celfyddydau Powys.
sarah@articulture-wales.co.uk
Rheolwr prosiect ffrilans yw Rosie Strang. Mae hefyd yn gynhyrchydd yn y celfyddydau, y cyfryngau a’r amgylchedd, yn datblygu a rheoli ystod eang o ddigwyddiadau amrywiol a phrosiectau ers dros 20 mlynedd ar draws y DU, gyda phartneriaid o’r Hayward Gallery a Southbank Centre, i Gyfoeth Naturiol Cymru a Choed Cadw / Woodland Trust. Y thema gyffredin – ymrwymiad uniongyrchol gyda lleoliad drwy’r celfyddydau, addysg a thirlun sy’n gweld tyfiant mewn cyfranogiad cymunedol a chysylltiadau. Fel perfformwraig, hi yw aelod sefydlu ‘The Laundrettas’ – cydweithfa wnaeth ennill gwobrau ac a deithiodd gwyliau celfyddydol ar draws y DU am 8 mlynedd…
rosie@articulture-wales.co.uk
Mae Lauren yn gynhyrchydd a rheolwr prosiect sy’n gweithio mewn dysg greadigol a chelfyddydau cyfranogol. Gyda’i gwreiddiau mewn arferion cysylltu â chymuned, daw â dealltwriaeth o ymgysylltu â chymuned a chydweithio â phartneriaid di-gelfyddydol. Cyd-sefydlodd Green Shoes Arts yn 2009 yn Nwyrain Llundain yn sefydlu prosiectau ar sail y gymuned i bobl ifanc ac oedolion bregus. Yn ogystal, gweithiodd Lauren ar draws Llundain fel ymarferydd, hyfforddwr ac arfarnwr drama annibynnol mewn sefyllfaoedd addysgol a chymdeithasol. Ers symud i Gymru yn 2015, mae Lauren wedi cynhyrchu cynyrchiadau gwyddonol a dawns gyda Dawns Powys, wedi darparu cefnogaeth datblygiad sefydliadol i sawl cwmni ac mae wedi bod ynghlwm â’r rhaglen Arwain Ysgolion Creadigol.
lauren@articulture-wales.co.uk
Mae Articulture yn gyrru gwaith ar y cyd uchelgeisiol ar draws y sector i greu cyfleoedd newydd ar gyfer celfyddydau awyr agored yng Nghymru.