Cynhyrchiad newydd NoFit State Circus, BAMBOO, mewn partneriaeth ag Articulture

By 22nd Ebrill 2024Uncategorised @cy

Mae NoFit State Circus yn cyflwyno chwe pherfformiad AM DDIM o’i gynhyrchiad syrcas awyr agored newydd, BAMBOO, ar draws Canolbarth Cymru, yn Nhywyn, Machynlleth a’r Drenewydd, mewn partneriaeth ag Articulture.

Cynhyrchiad syrcas awyr-agored newydd trawiadol, sgilgar, ysblennydd sy’n defnyddio dim ond bambŵ a chyrff pobl – gan ddangos breuder a harddwch ein bywydau rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol ar y blaned hon.

Mae’r artistiaid yn cyrraedd llwyfan gwag, gan ddod â bwndeli o fambŵ gyda nhw. Maen nhw’n adeiladu cerfluniau mawr sy’n newid, yn addasu ac yn troi’n faes chwarae syrcas cywrain, annisgwyl sydd fel pe bai’n herio deddfau ffiseg.

Mae artistiaid syrcas ac acrobatiaid gyda’r gorau yn y byd y tu mewn i’r strwythurau sy’n plygu ac yn gwyro, gan ychwanegu at y tensiwn, y ddrama, a’r ymdeimlad o berygl sydd wrth galon y sioeau syrcas gorau.

Dyma berfformiad ystyrlon, afieithus, gyda cherddoriaeth fyw, comedi a champau sy’n dangos nerth ac ystwythder rhyfeddol. Rydym yn dathlu’r hyn sy’n bosibl pan fydd bodau dynol a byd natur yn ymddiried yn ei gilydd ac yn gweithio mewn cytgord.

Mae BAMBOO yn bartneriaeth rhwng NoFit State, Imagineer ac Orit Azaz. Mish Weaver sy’n cyfarwyddo. Fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, The Foyle Foundation, a Without Walls, ac fe’i comisiynwyd gan Stockton International Riverside Festival, Norfolk & Norwich Festival, Hat Fair a Timber Festival.

Tyfodd BAMBOO allan o brosiect ar y cyd rhwng Imagineer, Orit Azaz a NoFit State er mwyn archwilio pa strwythurau, straeon a pherfformiadau syrcas y gellir eu creu â bambŵ wedi’i dyfu yn y DU. Os hoffech wybod mwy, ewch i dudalen Ymchwil a Datblygu Bamboo Circus ar ein gwefan.

Dyddiadau taith Canolbarth Cymru

Dydd Mawrth 28 Mai, 12 o’r gloch a 4pm
Yr Ardd Furiog
Ynysmaengwyn Camping & Caravan Park (oddi ar yr A493)
Tywyn LL39 9RY
Gweler ar y Map

Dydd Mercher 29 Mai, 12 o’r gloch a 4pm
Y Lawnt, Y Plas, Machynlleth, SY20 8DL
Gweler ar y Map

Dydd Mercher 30 Mai, 12 o’r gloch a 4pm
Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd
Y Parc, Y Drenewydd, SY16 2NZ
https://orieldavies.org/cy

Does dim angen tocynnau nac archebu ymlaen llaw – dim ond galw draw! Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ymweliad mae croeso i chi ebostio Articulture.

Skip to main content