Ar ôl galwad agored yn gynharach eleni, pleser i Articulture yw cyflwyno’r artistiaid o Gymru a lwyddodd i gael Comisiwn Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad ar gyfer 2024.
Mae’r comisiynau’n cynnig cyfle i artistiaid ddatblygu, gan gynorthwyo i greu gweithiau newydd ar gyfer yr awyr agored ac arddangos y gweithiau hynny o gwmpas y wlad.
Mae Daisy Williams a Paula Renzel, artistiaid syrcas o Ogledd Cymru, yn cyflwyno Wattle&Daub – dwy brydferthwraig ddeniadol sydd ar genhadaeth i harddu pwy bynnag y gallant gael gafael arnynt. Gweithwyr braidd yn bethma gyda chalonnau mawr; dihirod annwyl. Gyda barn absẃrd ynglŷn â diwydiant harddwch y byd sydd ohoni, bydd y ddwy yn mynd o gwmpas eu pethau yn cynnig dihangfa i ‘wirfoddolwyr’ diniwed rhag realiti yn eu salon pen ffordd dros dro, lle gwerthant eu nwyddau amheus. Mae Harry Pizzey, dylunydd amlddisgyblaethol o Gaerdydd, yn cyflwyno Museum of Memorable Trees. Gadewch i’r curadur eich tywys trwy’r arddangosion wrth ichi wrando ar hanesion atgofus coed – hanesion sydd wedi ymblethu â bywydau ac atgofion pobl. Cewch eich cludo i gyfnod a lle gwahanol wrth ichi ddarganfod dioramâu symudol cywrain sy’n darlunio hanesion y coed. Mae yna ddigonedd o le i ragor o goed yn yr amgueddfa – a oes gennych chi goeden y gallwch ei chyfrannu? Mae Articulture yn edrych ymlaen at weithio gyda Daisy, Paula a Harry i ddatblygu eu sioeau newydd, a fydd yn ymweld â phedair gŵyl yn y DU ac Iwerddon yn ystod haf 2024: Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cymru (mewn partneriaeth ag Articulture) bd: Festival, Bradford (mewn partneriaeth ag Outdoor Arts UK) Spraoi, Iwerddon (mewn partneriaeth ag ISACS) Gŵyl Surge, Yr Alban (mewn partneriaeth ag Articulation)
Dechreuodd prosiect Pedair Gwlad 2024 gyda phreswylfa ym mis Ionawr 2024, lle cafodd artistiaid dethol o’r pedair gwlad gyfle i rwydweithio a datblygu eu syniadau creadigol gydag arweiniad gan fentoriaid blaenllaw a rhaglenwyr yr ŵyl. Cefnogir Comisiynau Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad ar gyfer 2024 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Articulation, Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Outdoor Arts UK ac ISACS.
Llun, o’r chwith i’r dde: Harry Pizzey, Paula Renzel a Daisy Williams.