Sut i gynnwys BSL a/neu ddisgrifio sain yn eich gwaith – dwy sesiwn Zoom am ddim

By 2nd Ionawr 2024Uncategorised @cy
Two blond white women dressed in bright orange burst through a hole in space in front of a green mountain, a slither of blue sky overhead.

Yn ystyried cyflwyno cais ar gyfer comisiwn #AgorAllan24 ac yn dymuno cael gwybod rhagor am sut i gynnwys BSL a/neu ddisgrifiad sain yn eich gwaith? Rydym yn cynnig dwy sesiwn Zoom am ddim dan arweiniad arbenigwyr blaenllaw.

Mae’r sesiynau am ddim ond mae’r llefydd yn brin felly archebwch ar frys!

Ehangu ar ymgysylltiad â chynulleidfaoedd byddar
2 awr gydag egwyl
Bydd Steph Bailey Scott ac Elise Davison o Taking Flight Theatre yn eich arwain drwy ddulliau syml i wneud eich gwaith yn fwy difyr ac apelgar i gynulleidfaoedd Byddar. Byddwn yn edrych ar ddehonglwyr BSL a’r gwahanol ffyrdd y gellir eu defnyddio mewn gwaith yn ogystal â sut i wneud eich gwaith yn fwy gweledol. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwaith hygyrchedd creadigol, bu Taking Flight ar flaen y gad fel sefydliad i gynnig cyngor ac arbenigedd ar bopeth ynghlwm â hygyrchedd a chynhwysiant.


Disgrifiad sain creadigol ar gyfer y celfyddydau awyr agored
1.5 awr gydag egwyl
Bydd yr actores Karina Jones, sydd â nam ar ei golwg, yn berfformiwr awyrol, ymgynghorydd disgrifiad clywedol a hyfforddwr llais, yn eich dysgu sut i sefydlu disgrifiad sain yn eich sioe. Bydd y sesiwn yn edrych ar y gwahanol dechnegau disgrifiad sain gan ystyried y llais fel disgrifiwr sain, o ble y daw y disgrifiad sain a sut i’w drwytho i mewn i’ch gwaith. I baratoi ar gyfer y sesiwn, meddyliwch am sut y byddech yn disgrifio’ch hun… beth sy’n bwysig i’w wybod amdanoch?

Skip to main content