Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru yn comisiynu tri pherfformiad celfyddydau awyr agored newydd

By 15th Ebrill 2024Uncategorised @cy

Yn dilyn galwad am artistiaid o Gymru yn gynharach eleni, mae Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC) wedi comisiynu tri pherfformiad awyr agored newydd. Bydd y comisiynau llwyddiannus yn teithio i leoliadau a gwyliau WOAC trwy Gymru rhwng Mai a Medi 2024.

“Ar ôl proses ymgeisio ysbrydoledig, lle cawsom siarad ag artistiaid ledled Cymru, rydym yn llawn cyffro ynglŷn â’r comisiynau ar gyfer eleni, a ddewiswyd gyda’n partneriaid yn y consortiwm. Gallwn addo rhywbeth difyr i bawb – yn cynnwys dawnsio yn yr awyr gydag awyrennau, perfformiad syrcas cabaret ar long mordaith a thaith ddiwylliannol glownaidd amgen o amgylch Cymru!” Julie Ann Heskin, Rheolwr Prosiect, Articulture.

Mae Bombastic yn cyflwyno BOMBA airways a fydd yn hedfan ar y cyd i’r dref. Cadwch olwg am stiwardiaid y cwmni awyrennau – allwch chi ddim peidio â sylwi arnynt, i fod yn onest, oherwydd byddant wedi’u gwisgo fel jymbo-jetiau a byddant yn gadael mwg lliwgar a thrac sain yn llawn curiad ar eu hôl, ble bynnag yr ânt! Stiwardiaid gwirioneddol broffesiynol sy’n barod i ddelio â thyrfedd annisgwyl a holl helyntion bywyd gyda gwên ar eu hwynebau.

O’r awyr i’r môr, mae HMS Stormys gan Madam Mango yn gabaret syrcas llawn cyffro sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd trwy lygaid tri chyn-ddiddanwr rhyfedd a arferai weithio ar HMS Stormys. Y flwyddyn yw 2827 ac mae’r argyfwng hinsawdd wedi digwydd. Yr unig ffordd y mae bodau dynol yn llwyddo i oroesi yw trwy fyw ar longau mordeithiau rhydlyd sawl gwrhyd islaw lefel y môr. Maent ar dân eisiau eich diddanu gyda’u triciau trawiadol, oherwydd does neb wedi cymryd unrhyw sylw ohonynt ers blynyddoedd. Felly, dewch yn llu, dewch yn llu!

Yn ôl ar dir sych o’r diwedd, ac yn dilyn llwyddiant ‘Mr. Websters Guidebook to Wales’, mae Dripping Tap yn cyflwyno Webster & Jones. Mae Mr Webster, mynyddwr hwyliog a Chymro i’r carn, a Mr Jones, ffermwr defaid a thywysydd lleol di-glem, yn eich gwahodd i fynd ar daith dywysedig ddwyieithog gyffrous o amgylch uchafbwyntiau diwylliannol lleol. Gyda digonedd o ‘ffeithiau’ hanesyddol, mae Webster yn siarad Saesneg yn unig ac mae Jones yn siarad Cymraeg yn unig, ond ni ddylai hynny fod yn broblem. Tybed? Byddwch yn barod am gampau acrobatig yn ystod y dathliad gorfoleddus a gwirion hwn o iaith, dychymyg a lle.

Mae Articulture yn cynorthwyo i ddatblygu celfyddydau awyr agored arloesol o’r radd flaenaf a chynulleidfaoedd amrywiol a brwd ar hyd a lled Cymru. Caiff comisiynau WOAC ar gyfer 2024 eu hariannu gan y partneriaid sy’n cymryd rhan yn y daith a hefyd gan Articulture, trwy gyfrwng arian gan gronfa ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

Llun: Webster a Jones gan Dripping Tap

Skip to main content