Cyfleoedd newydd gyda phrosiectau celfyddydol arloesol yn yr awyr agored yng Nghymru

By 15th Mehefin 2021Uncategorised @cy

Mae prosiectau celfyddydol arloesol yn yr awyr agored yn dechrau yn 2021 ar strydoedd Aberystwyth, a’r ystadau diwydiannol a thraethau yn ne Cymru, wrth i Articulture gydweithio gydag eraill i danio ysbrydoliaeth, syniadau ac anturiaethau newydd…

AberGêm

Mae AberGêm yn brosiect celfyddydol arloesol yn yr awyr agored sy’n trawsnewid strydoedd Aberystwyth yn gêm realiti bywyd go iawn.  

Dan arweiniad artistiaid lleol ac oedolion ifanc, bydd yn adrodd stori’r gymuned drwy gynnal perfformiadau byw, cerddoriaeth, golygfa a gosodiadau gweledol yn lleoedd annisgwyl.

Yn rhedeg rhwng eleni a 2022, mae’n fenter ar y cyd rhwng Articulture, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Boomtown mewn partneriaeth â Chyngor Sirol Ceredigion a Mind Aberystwyth, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cymerwch ran yn AberGêm –

Galwad am Reolwr Prosiect Llawrydd – rhagor o wybodaeth yma

Galw ar Artistiaid a Hwyluswyr Creadigol – rhagor o wybodaeth yma

Y Pentref Syrcas Cymreig

Yn ogystal, yr haf hwn mae grŵp o gwmnïau ac ymarferwyr Syrcas o Gymru, gan gynnwys Articulture, wedi dod ynghyd i greu ‘pentref’ heb ei debyg.

Gan dynnu ar ddiwylliant teithio y Babell Fawr sy’n annwyl i bob un ohonom, bydd Y Pentref Syrcas Cymreig yn safle awyr agored gyda Phebyll Mawr a lle i bobl syrcas o bob math a chredo i sefydlu a chydweithio.

Yn byw, dysgu a gweithio gyda’i gilydd mewn un lle, bydd y pentref yn amgylchedd perffaith i archwilio, dysgu, a dechrau rhoi ffyrdd newydd o wneud pethau dan brawf – a’r cwbl drwy ddathlu pob agwedd ar y syrcas.

Cymerwch ran yn Y Pentref Syrcas Cymreig –

Mae’r alwad am fynegiannau o ddiddordeb i ymuno â’r Pentref Syrcas yn fyw! – Rhagor o wybodaeth yma

Skip to main content