Mae AberGêm yn brosiect celfyddydol arloesol yn yr awyr agored sy’n trawsnewid strydoedd Aberystwyth yn gêm realiti bywyd go iawn.
Dan arweiniad artistiaid lleol ac oedolion ifanc, bydd yn adrodd stori’r gymuned drwy gynnal perfformiadau byw, cerddoriaeth, golygfa a gosodiadau gweledol yn lleoedd annisgwyl.
Yn rhedeg rhwng eleni a 2022, mae’n fenter ar y cyd rhwng Articulture, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Boomtown mewn partneriaeth â Chyngor Sirol Ceredigion a Mind Aberystwyth, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Galw ar Artistiaid a Hwyluswyr Creadigol
Rydym yn chwilio am artistiaid a hwyluswyr creadigol llawrydd i gydweithio â ni ar y prosiect hwn dros y 2 flynedd nesaf, a hoffem gysylltu â phobl greadigol o unrhyw gefndir sydd wedi’u lleoli yng nghanolbarth Cymru/ardal Aberystwyth neu sydd â chysylltiadau cryfion â’r ardal, ac sy’n meddu ar rai o’r diddordebau a/neu brofiadau canlynol:
* Gweithio yn yr awyr agored
* Creu perfformiadau, amgylcheddau, gosodweithiau neu ddigwyddiadau pop-yp
* Gweithio mewn gŵyl neu amgylchedd digwyddiadau
* Gweithio gydag oedolion ifanc rhwng 16 a 25 oed
* Hwyluso gweithdai ar gyfer creu ar y cyd
* Y Celfyddydau ac Iechyd
* Gweithio mewn cymunedau gwledig a gyda nhw
* Gweithio ar y cyd ag artistiaid a chyfranogwyr eraill
* Siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr
Rydym yn agored i artistiaid a hwyluswyr creadigol sydd ar unrhyw gam o’u gyrfaoedd, ac o unrhyw ddisgyblaeth.
Telir cyfradd fesul diwrnod llawrydd ar gyfer bob swydd, yn unol â safonau’r diwydiant.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – anfonwch CV ac unrhyw ddolen gwe at eich gwaith yn y gorffennol/portffolio/pinterest/instagram.
Rhowch wybod i ni a oes gennych brofiad o hwyluso ai peidio.
Anfonwch e-bost at zoe@articulture-wales.co.uk erbyn 5pm dydd Llun 5 Gorffennaf.
Gofynnwch i ni os hoffech gysylltu â ni mewn ffordd arall, neu os oes gennych gwestiynau. Neges destun 07939 052899 neu e-bost zoe@articulture-wales.co.uk
Rhowch wybod i ni sut allwn ddarparu ar gyfer eich anghenion mynediad.