Articulture yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth 2024

By 30th Ebrill 2024Uncategorised @cy

Tri pherfformiad celfyddydau awyr agored i’w mwynhau AM DDIM! (Gwaith ar y Gweill)

Dydd Sul 5 Mai.

3 people are standing in a boat, they are on the sea. One is wearing a orange life jacket and looking through a telescope, one is holding an oar and the other a briefcase.

Mae’n bleser o’r mwyaf gan Articulture barhau â’i bartneriaeth â Gŵyl Gomedi Machynlleth, gan ddod â thri pherfformiad celfyddydau (Gwaith ar y Gweill) awyr agored i’r ŵyl eleni, i chi gael eu mwynhau am ddim.

Mae Articulture yn cefnogi datblygiad celfyddydau awyr agored arloesol o safon a chynulleidfaoedd amrywiol a brwd ledled Cymru. Mae eu pencadlys wedi’i leoli ym Machynlleth – cartref Gŵyl Gomedi Machynlleth, sef penwythnos o gomedi stand yp a gynhelir unwaith y flwyddyn gan Little Wander Events.

Mae Bombastic yn cyflwyno 
BOMBA airways a fydd yn hedfan ar y cyd i’r dref. Cadwch olwg am stiwardiaid y cwmni awyrennau – allwch chi ddim peidio â sylwi arnynt, a bod yn onest, oherwydd byddant wedi’u gwisgo fel jymbo-jetiau a byddant yn gadael mwg lliwgar a thrac sain yn llawn curiad ar eu hôl, ble bynnag yr ânt! Dyma stiwardiaid gwirioneddol broffesiynol sy’n barod i ddelio â thyrfedd annisgwyl a holl helyntion bywyd gyda gwên ar eu hwynebau.

O’r awyr i’r môr, mae HMS Stormys gan Madam Mango yn gabaret syrcas llawn hwyl a chyffro sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd trwy lygaid tri chyn-ddiddanwr rhyfedd a arferai weithio ar HMS Stormys. Y flwyddyn yw 2827 ac mae’r argyfwng hinsawdd wedi digwydd. Yr unig ffordd y mae bodau dynol yn llwyddo i oroesi yw trwy fyw ar longau mordeithiau rhydlyd sawl gwrhyd islaw lefel y môr. Maent ar dân eisiau eich diddanu gyda’u triciau trawiadol, oherwydd does neb wedi cymryd unrhyw sylw ohonynt ers blynyddoedd. Felly, dewch yn llu, dewch yn llu!  

Yn ôl ar dir sych o’r diwedd, ac yn dilyn llwyddiant ‘Mr. Websters Guidebook to Wales’, mae Dripping Tap yn cyflwyno Webster & Jones: Teithiau Tywys. Mae Mr Webster, mynyddwr hwyliog a Chymro i’r carn, a Mr Jones, ffermwr defaid a thywysydd lleol di-glem, yn eich gwahodd i fynd ar daith dywysedig ddwyieithog gyffrous o amgylch uchafbwyntiau diwylliannol Machynlleth. Gyda digonedd o ‘ffeithiau’ hanesyddol, mae Webster yn siarad Saesneg yn unig ac mae Jones yn siarad Cymraeg yn unig, ond ni ddylai hynny fod yn broblem. Tybed? Byddwch yn barod am gampau acrobatig yn ystod y dathliad gorfoleddus a gwirion hwn o iaith, dychymyg a lle.

Dyma’r tro cyntaf y bydd y cyhoedd yn cael cyfle i weld y tair sioe hyn cyn iddynt fynd ar daith ar hyd a lled Cymru yn yr haf. 

Amseroedd a lleoliadau perfformiadau: 

Dydd Sul 5 Mai
11.30 – Dripping Tap: Webster & Jones Teithiau Tywys (man cyfarfod – Live music stage, Y Plas Lawn)
14:00 – Bombastic: BOMBA Airways (Y Plas Lawn)
14.00 – Dripping Tap: Webster & Jones Teithiau Tywys (man cyfarfod– Live music stage, Y Plas Lawn)
14.30 – HMS Stormys (Woodland Circus Stage)

Ariennir comisiynau ‘Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru’ 2024 gan y partneriaid teithio sy’n cymryd rhan a gan Articulture, drwy ei gyllid prosiect gan gronfa ’Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.  

Llun: HMS Stormys (Madam Mango)

Skip to main content