Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru yn croesawu aelodau newydd

By 27th Mawrth 2023Uncategorised @cy
Tafwyl sign on Cardiff Castle

Rydym yn llawn cyffro o gael cyhoeddi bod gan Gonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru dri o bartneriaid newydd. 

Sefydlwyd y Consortiwm yn 2014, ac ers 2015 mae wedi cefnogi’r gwaith o greu 16 o weithiau celf awyr agored amrywiol, newydd, a leolir yng Nghymru, ynghyd â chynorthwyo i fynd â’r gweithiau hyn ar daith o amgylch y wlad. 

Articulture sy’n hwyluso’r prosiect, gan gydweithio’n agos gyda’r partneriaid – sef amrywiaeth rhagorol o wyliau a lleoliadau ledled Cymru. Mae nodau’r consortiwm yn cynnwys cefnogi ac annog artistiaid o Gymru sy’n dymuno archwilio’r arfer o weithio ym maes y celfyddydau awyr agored. 

“Mae Articulture yn sefydliad bach â breuddwyd mawr – rydym eisiau i bawb yng Nghymru gael cyfle i fwynhau celfyddydau awyr agored o’r radd flaenaf! Allwn ni ddim cyflawni hyn ar ein pen ein hunain, felly rydym yn llwyr werthfawrogi’r partneriaethau sydd gennym gyda holl aelodau Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.’ 

“Mae amrywiaeth y sefydliadau y gweithiwn gyda nhw nid yn unig yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, ond mae hefyd yn rhoi profiad gwaith ehangach i’r artistiaid awyr agored a gaiff eu comisiynu gennym. Mae’n wych o beth bod y tri sefydliad newydd a gwahanol hyn wedi ymuno â ni.” 
Annie Grundy, Articulture Cymru 

Rydym yn llawn cyffro o gael croesawu Sefydliad y Glowyr Coed Duon fel un o Bartneriaid newydd y Consortiwm, ynghyd â Tafwyl a Celfyddydau SPAN fel Partneriaid Strategol newydd ar gyfer 2023. 

“Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn llawn cyffro o gael ymuno â Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru dan arweiniad Articulture. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ceisio ymestyn ein rhaglen er mwyn cyflwyno gwaith awyr agored trwy Sir Caerffili a chysylltu â chynulleidfaoedd yn y mannau lle maen nhw’n byw. Profiad amhrisiadwy i ni fydd bod yn rhan o rwydwaith sydd â chyfoeth o brofiad, a bydd yn cefnogi ein dysgu yn yr ardal hon.” 

Eloise Tong, Rheolwr Gwasanaethau Theatr a Chelfyddydau. 

Gŵyl Gymraeg awyr agored flynyddol yw Tafwyl. Cynhelir yr ŵyr dros ddeuddydd yng Nghastell Caerdydd. 

“Mae Menter Caerdydd a Tafwyl yn llawn cyffro o gael ymuno â Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru fel Partneriaid Strategol ar gyfer 2023. Wrth i Tafwyl symud i leoliad newydd ym Mharc Bute, rydym yn mynd ati i ymestyn y rhaglen er mwyn cynnwys ychwaneg o berfformiadau awyr agored y tu hwnt i lwyfannau traddodiadol yr ŵyl. Mae Tafwyl yn hyrwyddo’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghaerdydd a thu hwnt, ac rydym yn ymdrechu i roi cefnogaeth a llwyfan i artistiaid hen a newydd sy’n danbaid dros greu a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag Articulture cyn Tafwyl 2023, a gynhelir ar 15 ac 16 Gorffennaf.” 
Caryl McQuilling, Prif Swyddog Tafwyl 

Elusen celfyddydau cymunedol yw Celfyddydau SPAN. Mae’n cyd-greu gwaith gyda chymunedau trwy orllewin Cymru. 

“Mae SPAN yn canolbwyntio ar ailddiffinio ein perthynas â’r awyr agored, mannau cymunedol a mannau digidol fel lleoedd creadigol. Mae gennym ddiddordeb mewn chwalu’r rhwystrau sy’n perthyn i seilwaith celfyddydau traddodiadol. Rydym yn llawn cyffro o gael ymuno â’r consortiwm er mwyn cyflwyno gwaith awyr agored newydd i’n cynulleidfaoedd gwledig.” 

Bethan Touhig Gamble, Cyfarwyddwr, Celfyddydau SPAN 

Diddordeb mewn dod yn Bartner? Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn annog a chefnogi gweithiau awyr agored newydd yng Nghymru ac os yw’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am nodau’r consortiwm – cysylltwch trwy ffonio Julie Ann ar 07890681212 neu e-bost julieann@articulture-wales.co.uk

Skip to main content