
Cafodd WOAC – Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru- ei sefydlu yn 2014 ac ers 2015 bu’n cefnogi’r gwaith o greu a theithio 19 darn celf awyr agored newydd, hyfryd ac amrywiol, wedi’u lleoli yng Nghymru!
Mae Articulture yn hwyluso’r prosiect, gan gydweithio’n agos â’r partneriaid – sy’n ystod wych o wyliau a pherfformiadau wedi’u lleoli ar hyd a lled Cymru.
Dewch yn Bartner! Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn annog a chefnogi gwaith awyr agored newydd yng Nghymru ac yn awyddus i ddysgu mwy am nodau’r consortia- cysylltwch drwy ffonio Julie Ann ar 07890681212 neu anfonwch e-bost Julie Ann
Amcanion y consortiwm
- Cyflwyno a datblygu gwaith gan genhedlaeth a newydd o arlunwyr awyr agored yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg.
- Cynorthwyo ac annog arlunwyr yng Nghymru sydd ddim wedi cael profiad blaenorol o gelfyddydau awyr agored, ond a hoffai.
- Gweithio gyda chwmnïau ac arlunwyr sefydledig yng Nghymru sy’n awyddus i arbrofi a datblygu agweddau newydd i’w gwaith.
- Cynorthwyo i ysgogi cydweithrediadau celfyddydau awyr agored newydd, syfrdanol a dengar rhwng arlunwyr yng Nghymru o wahanol ddisgyblaethau.
- Cynorthwyo i ddatblygu a chyflwyno gwaith gyda arlunwyr amrywiol, byddar ac anabl yng Nghymru.
- Gweithio ar y cyd gydag arlunwyr yng Nghymru mewn ffordd bositif, agored a chydweithredol, gan ganiatáu lle ar gyfer rhannu a dysgu gweithredol trwy gydol y broses o ddatblygu a theithio gwaith trwy gyfathrebu rheolaidd a gwerthusiad parhaus.
Partneriaid y Consortiwm 2023