Mae Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (CCAAC) wedi comisiynu tri darn o waith perfformio awyr agored newydd ar gyfer Cymru, yn dilyn galwad am artistiaid oedd â diddordeb yn gynharach eleni.
Cynigiodd #AgorAllan2023 dri chomisiwn newydd i artistiaid yng Nghymru oedd yn awyddus i ddatblygu a theithio celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru. Roedd Articulture eisiau gweithio ag artistiaid sy’n uniaethu â bod yn fyddar neu anabl, artistiaid oedd eisiau creu gwaith yn arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg ac un comisiwn agored i artist sy’n byw yng Nghymru oedd â syniad ar gyfer prosiect neu berfformiad celfyddydau awyr agored.
Dewiswyd y tri chais llwyddiannus gan Gonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru, a chawsant eu rheoli gan Articulture a’u cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a byddant yn teithio i leoliadau a gwyliau aelodau CCAAC ledled Cymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023.
“Roeddem yn hynod falch ac wedi’n hysbrydoli gan yr ystod o amrywiaeth, syniadau a ffurfiau celf a gafodd eu cyflwyno fel comisiynau eleni. Fel y pwynt cyswllt cyntaf i artistiaid sy’n ymgeisio mae’n gyffrous iawn cael sgwrsio â phobl ynghylch eu syniadau a’u gweld yn datblygu i’w ceisiadau terfynol. Mae hefyd yn gipolwg ysbrydoledig ar y dalent sy’n tyfu ac yn ffynnu yng Nghymru.”
“Edrychwn ymlaen at gefnogi’r comisiynau ar eu taith i’n gwyliau a lleoliadau partner o amgylch Cymru dros yr haf a’u gweld yn ymgysylltu â’u cynulleidfaoedd ac yn mireinio’u sioeau.”
Julie Ann Heskin, Rheolwr Prosiect ar gyfer #agorallan23
Bylchau gan Karina Jones
Mae’r perfformiwr Karina Jones, sydd â nam ar ei golwg, yn actor, perfformiwr awyrol, ymgynghorydd disgrifiad clywedol a hyfforddwr llais. Mae ‘Bylchau’ yn hyfryd, difyr, chwareus, cyfranogol a phryfoclyd.Daeth dwy fenyw (artistiaid cylch awyrol), un yn ddall, ar draws twll yn y gofod. Maent yn cwympo i mewn iddo ac yn ein tywys ni drwy eu taith ddychmygol, ryfeddol. Mae disgrifiad clywedol wedi’i ymgorffori’n greadigol yn y sioe.
“We are delighted to have the opportunity – through the Articulture Commission – to explore integrated creative audio description in our new aerial outdoor show, Holes.”
Howl gan Claire Crook
Mae Claire Crook yn berfformiwr syrcas a theatr Cymraeg ei hiaith. Mae ‘Howl’ yn berfformiad theatr awyrol teimladwy a doniol sy’n sôn am fenyw yn trawsnewid yn ddigymell i fod yn fleidd-ddyn. Bydd y perfformiad yn rhannol sioe stryd, rhannol adrodd stori ar lafar, gan gyfuno theatr gorfforol ac awyrol gyda dawns, testun, a stori ryngweithiol ddifyr.
“Mae’n deimlad hynod gyffrous i ennill comisiwn Cymraeg CCAAC eleni, rwy’n credu ei bod yn bwysig bod artistiaid sy’n creu gwaith arloesol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cefnogi, nid yn unig er mwyn codi proffil gwaith yn y Gymraeg ond hefyd i arddangos y dalent a’r creadigedd yng Nghymru.”
Alarch mewn Cariad gan Gary a Pel
Mae Gary & Pel Live-Action Cartoon yn gwmni perfformio awyr agored wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sy’n gymysgedd o gomedi golbio, theatr gorfforol, syrcas, ac antur. Mae ‘Alarch mewn Cariad’ yn sioe grwydrol 30 munud o hyd, sy’n cynnwys Pedalo Alarch 7 troedfedd wedi’i ailgylchu. Bydd Gary a Pel yn pedalu at galonnau cynulleidfaoedd; gan eu gwahodd i ddawnsio’n araf, tynnu ychydig o luniau a chael ‘reid ramantus’ ar y cwch cariad ei hun hyd yn oed.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Articulture Cymru am gomisiynu ein sioe grwydrol newydd ‘Alarch mewn Cariad’. Mae’n syniad sydd wedi bod ar y gweill ers dros ddwy flynedd! Rydym yn falch o gael teithio ein menter newydd wirion bost ledled Cymru o’r diwedd.”
Dyddiadau Perfformiad:
7-9 Gorff Beyond the Border Festival (Bylchau)
7-9 Gorff Dance Days, Swansea (Bylchau, Howl + Alarch Mewn Cariad)
15-16 Gorff Tafwyl, Cardiff (Alarch Mewn Cariad)
22 Gorff RhythmAYE!, Bangor (Bylchau)
22 & 23 Gorff Big Splash, Newport (Bylchau + Alarch Mewn Cariad)
2 Awst Cwmcarn Forest, Caerphilly (Alarch Mewn Cariad)
3 Awst Morgans Jones’ Park, Caerphilly (Howl)
7, 10 & 11 Awst National Eisteddfod, Boduan (Bylchau, Alarch Mewn Cariad + Howl)
22, 30 Awst Parc Gwledig Bryngarw, Bridgend (Bylchau, Howl)
31 Awst Scolton Manor, Pembrokeshire (Howl)
23 Medi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Alarch Mewn Cariad)
Mwy o dyddiadau i’w cadarnhau.