Mae “Howl!” yn stori hudolus am fenyw sy’n troi’n flaidd-ddynes pan nad yw’n ei ddisgwyl, mae hyn yn ei chael hi mewn i bob math o sefyllfaoedd diddorol a digon o drafferth! Heb rybudd mae hi’n dod yn greadur hynod bwerus, ffyrnig a chyfrwys, sy’n ennyn ofn a syfrdandod ym mron pawb y daw ar eu traws. Ond unwaith mae hi’n dysgu rheoli ei blaidd-hunan mae’n sylweddoli y gall ei defnyddio er mantais iddi hi ac eraill, er na fydd byth yn dod i arfer â chael breichiau mor flewog!
Mae’r berfformwraig syrcas a theatr Claire Crook yn mynd â ni ar daith bwerus ac weithiau wirion yn dathlu pŵer benywaidd, hud, ffantasi a’r gallu i oresgyn adfyd. Stori ryngweithiol sy’n dathlu’r pŵer i droi anfantais yn fantais, gan gyfuno theatr awyr a chorfforol gyda dawns a thrac sain pwrpasol. Mae’n berfformiad theatr awyrol teimladwy a doniol sy’n gwneud i’r gynulleidfa gyfan udo!
Cyflwynir Howl drwy’r iaith Gymraeg.
Wedi’i ysgrifennu gan Claire Crook a’i Gyfarwyddo gan Gwen Thompson.
Sgôr gerddorol wreiddiol gan Daniel Rhys Lawrence gyda chymorth Cymraeg a gwisgoedd wedi’u dylunio gan Kate Jones.
Comisiynwyd a WOAC, chefnogwyd gan Articulture Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru.
www.madammango.co.uk
CYSYLLTWCH
Claire Crook
07846 797255
madammango@hotmail.co.uk