Y gwanwyn hwn, bydd Articulture a phartneriaid ledled Cymru a’r DU yn lansio #AgorAllan2022 – sef cyfres o gomisiynau a chyfleoedd datblygu ar gyfer Artistiaid sy’n dymuno creu celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru, y DU ac Iwerddon a mynd â nhw ar daith.
A oes gennych syniad ar gyfer perfformiad neu brosiect celf awyr agored? Mae’n syml – cysylltwch â ni i ddweud ‘helo’.
I wylio fideo BSL o’r alwad, cliciwch yma.
Cyfle #1
Creu & Mynd ar Daith – Cymru
Sylwch: mae’r dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn (11/03/22) wedi mynd heibio.
Comisiynau newydd ar gyfer Artistiaid na chânt eu cynrychioli’n ddigonol ac sy’n dymuno datblygu celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru a mynd â nhw ar daith. Mae’r cyfle hwn ar gyfer artistiaid:
* sy’n eu hystyried eu hunain yn F/fyddar neu’n Anabl
* sy’n dod o gefndiroedd Du a/neu fwyafrif byd-eang arall
* a/neu sy’n dymuno datblygu a dangos gwaith yn y Gymraeg yn unig.
Caiff y comisiynau hyn eu cefnogi gan leoliadau a gwyliau blaenllaw ledled Cymru a fydd yn cydweithio ar ffurf Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC), dan reolaeth Articulture.
Bydd y gwaith awyr agored a ddewisir yn teithio i leoliadau partneriaid WOAC yn ystod 2022, a bydd Artistiaid yn derbyn ffioedd perfformio ychwanegol yn unol â hynny.
* Gall artistiaid wneud cais am hyd at £5000 i ddatblygu’r gwaith
* Bydd Articulture yn cynorthwyo Artistiaid dethol trwy’r holl gamau sy’n gysylltiedig â chreu’r gwaith a mynd ag ef ar daith – gall hyn gynnwys cynhyrchu, mentoriaeth, cymorth cynhyrchu a marchnata
* Hefyd, bydd cyfle datblygiad proffesiynol yn cael ei gynnig i’r Artistiaid dethol, sef cyfle i ymweld â’r ‘Out There Festival’ yn Great Yarmouth (Medi 2022) i weld celfyddydau awyr agored rhyngwladol newydd a chreu cysylltiadau.
Cyfle #2 – Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl
(yn flaenorol ‘Creu & Mynd ar Daith – y DU ac Iwerddon’)
Sylwch: mae’r dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn (29/04/22) wedi mynd heibio.
Partneriaeth gyda phartneriaeth Pedair Gwlad newydd, yn cael ei arwain gan Surge yn yr Alban – sy’n dod a phedwar rhwydwaith celfyddydau awyr agored a phedair gŵyl yn yr Alban, Iwerddon, Cymru a Lloegr.
Y nod yw creu detholiad o ddarnau celf awyr agored newydd a fydd yn teithio i wyliau ym mhob un o’r pedair gwlad yn ystod haf 2022. Bydd yr artistiaid/cwmnïau a ddewisir yn derbyn cyllideb o £5000 tuag at greu darn o gelf awyr agored, mentora proffesiynol gan y gwyliau a phob un o rwydweithiau’r bartneriaeth, a phreswyliad tri diwrnod yn Out There Arts yn Great Yarmouth. Weler y manylion llawn.
Dyddiad cau: 5pm ddydd Gwener 29 Ebrill
Cyfle #3
Cysylltu a Datblygu Syniadau ar gyfer Celfyddydau Awyr Agored
I bawb – y rhai sydd ag egin syniadau yn unig, y rhai sy’n dymuno ymestyn eu rhwydweithiau, y rhai sy’n barod i gynnig eu syniad – bydd gennym amrywiaeth o gyfleoedd eraill ar gyfer Artistiaid sy’n datblygu syniadau newydd ar gyfer celfyddydau awyr agored yng Nghymru yn 2022.
Mae’r rhain yn cynnwys –
* Digwyddiadau rhwydweithio fel y gellir rhannu syniadau gyda Rhaglenwyr a Chynhyrchwyr allweddol yn y diwydiant
* Cymorthfeydd parhaus gyda Chynhyrchwyr celfyddydau awyr agored, lle cynigir cymorth penodol ar gyfer datblygu eich syniad
Angen rhywbeth arall? Cofiwch gysylltu
A yw’n addas i mi?
Rydym yn croesawu pawb. Ni waeth be fo’ch cefndir na’ch profiad – cofiwch gysylltu i gael sgwrs.
Fel yr awgryma’r teitl, ‘agor allan’ yw nod #AgorAllan2022 – agor y drws i leoedd newydd, syniadau newydd a phosibiliadau newydd yn yr awyr agored gyda’n gilydd.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am syniadau a phrosiectau:
* Sy’n berfformiadol a/neu’n rhyngweithiol
* Sy’n dod â chefndiroedd gwahanol ynghyd i weithio gyda’i gilydd
Rhaid i’r artist arweiniol fod wedi’i leoli yng Nghymru, a rhaid i’r gwaith fod yn waith ar gyfer yr awyr agored.
Edrychwch ar wefan Articulture i weld pa gelfyddydau awyr agored rydym wedi cynorthwyo i’w creu yn y gorffennol – https://articulture-wales.co.uk/archebu/?lang=cy
Cysylltu
Os oes gennych syniad, os hoffech wneud cais am gomisiwn neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cofiwch gysylltu â ni i ddweud helo.
Gallwch anfon e-bost, ffonio, anfon neges destun, anfon neges WhatsApp neu ddefnyddio ein cyfryngau cymdeithasol:
E-bost – carys@articulture-wales.co.uk
Ffôn (galwadau neu negeseuon testun)) – 07504 501 507
Facebook – www.facebook.com/ArticultureWales
Twitter – https://twitter.com/Articulture_
Instagram – https://www.instagram.com/articulture_wales/
*Lawrlwytho Galwad yn Print Mawr – Cymraeg*
Caiff #AgorAllan2022 gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.
Llun – Nic Finch @chameleonic