Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl #AgorAllan2022

By 15th Ebrill 2022Uncategorised @cy

Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl
Dyddiad cau: Dydd Gwener 29 Ebrill am 5pm  

Fel rhan o #AgorAllan2022, mae Articulture, mewn cydweithrediad a Surge, yn cynnig cyfle newydd i artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru wneud cais am fwrsari a chyfle datblygu artistiaid Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl (yn flaenorol ‘Creu & Mynd ar Daith – y DU ac Iwerddon’).

 

Manylion Llawn

Bydd y bwrsarïau yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Y nod yw creu detholiad o ddarnau celf awyr agored newydd a fydd yn teithio i wyliau ym mhob un o’r pedair gwlad yn ystod haf 2022: Gŵyl Surge (yr Alban), Spraoi (Iwerddon mewn partneriaeth ag ISACS), Green Man (Cymru mewn partneriaeth ag Articulture) ac Out There (Lloegr mewn partneriaeth ag Outdoor Arts UK).  

Bydd yr artistiaid/cwmnïau a ddewisir yn derbyn cyllideb o £5000 tuag at greu darn o gelf awyr agored, mentora proffesiynol gan y gwyliau a phob un o rwydweithiau’r bartneriaeth, a phreswyliad tri diwrnod yn Out There Arts yn Great Yarmouth. Bydd cymorth teithio, llety a per diem yn cael eu darparu.

 

Anghenion:

* Cyflwyno syniad darn celf awyr agored newydd ar raddfa fach,
* Rhwng 1-3 perfformiwr yn y darn (rhaid i bob artist gael ei gadarnhau gan yr ymgeisydd cyn gwneud cais),
* Bod yn addas ar gyfer perfformio mewn mannau trefol a meysydd glas,
* Rhaid i bob perfformiwr fod ar gael ar gyfer y preswyliad yn Great Yarmouth (30 Mai – 2 Mehefin).

Hefyd, rhaid i bob perfformiwr fod ar gael ar gyfer y pedair gŵyl:
* 29 – 31 Gorffennaf (Spraio, Iwerddon a Surge Festival, yr Alban)
* 18 – 21 Awst (Green Man, Cymru)
* 16 – 18 Medi (Out There, Lloegr)

 

Byddwn yn cynnig:

* Mentora proffesiynol mewn creu, cynhyrchu, marchnata a gwneud ffilmiau gerila, a ddarperir gan Articulation Scotland, Articulture (Cymru), ISACS (Iwerddon), Outdoor Arts UK, Out There (Lloegr), Spraoi Studios (Iwerddon) a Surge (yr Alban),
* Cyllideb o £5000 tuag at gostau creu,
* Ffi o £100 y dydd (fesul artist) i berfformio yn y gwyliau,
* Cyfraniadau tuag at deithio, llety a per diem.

 

I wneud cais:

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a gallu, ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau awyr agored ar hyn o bryd.

Ar gyfer artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, e-bostiwch gynnig byr (tua 500 gair) a bywgraffiad byr ar gyfer pob perfformiwr/cydweithiwr (tua 100 gair yr un) i Carys Mol ar carys@articulture-wales.co.uk

Gall eich cais fod ym mha bynnag fformat sydd fwyaf hygyrch i chi – gallai hynny fod yn y gair ysgrifenedig, fideo byr neu recordiad llais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o Gymru yw 5pm ddydd Gwener 29 Ebrill.

 

Artistiaid yn Lloegr – gweler yma.
Artistiaid yn yr Alban – gweler yma.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Carys Mol ar carys@articulture-wales.co.uk   neu ffoniwch / anfon neges destun / WhatsApp ar 07504 501 507.

 

 

Caiff #AgorAllan2022 gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.

 

 

Skip to main content