#AgorAllan2023 – Cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru greu celfyddydau awyr agored newydd a mynd â nhw ar daith

By 6th Chwefror 2023Uncategorised @cy
AgorAllan Logo 2023


Oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer perfformiad neu brosiect celfyddydau awyr agored? 

Y gwanwyn hwn, mae Articulture a phartneriaid ar draws Cymru yn lansio #AgorAllan2023 – mae yna dri o gyfleoedd datblygu a chomisiwn i Artistiaid sydd eisiau creu a theithio celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru. 

I wylio fideo BSL o’r alwad, cliciwch yma.

Beth yw’r cyfle? 
Mae gennym dri chomisiwn newydd i Artistiaid sydd eisiau datblygu a theithio celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru, dau i artistiaid heb gynrychiolaeth ddigonol ac un comisiwn agored.  
Ymgeisiwch os ydych: 

  • yn ystyried eich hun yn artist Byddar neu Anabl 
  • eisiau creu gwaith a ddatblygwyd ac a grëwyd drwy’r Gymraeg yn unig 
  • yn artist sy’n byw yng Nghymru a bod gennych syniad am berfformiad neu brosiect celfyddydau awyr agored 

Bydd y comisiynau hyn yn cael eu cefnogi gan leoliadau a gwyliau blaenllaw ar draws Cymru, gan gydweithio fel Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (CCAAC), a’i reoli gan Articulture.  
 
Bydd y tri gwaith awyr agored yn mynd ar daith i leoliadau partneriaid CCAAC yn 2023. 

  • Gall Artistiaid wneud cais am hyd at £5500 i bob comisiwn.  
  • Bydd Articulture yn gweithio gyda’r Artistiaid a ddewisir i ddarparu cymorth ar bob cam o greu a theithio’r gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cymorth mentora, cynhyrchu a marchnata.  
  • Bydd yna gyfle i’r Artistiaid a gomisiynwyd ddatblygu’n broffesiynol ac ymweld â gŵyl gelfyddydau awyr agored sefydledig gydag Articulture i weld gwaith rhyngwladol newydd a gwneud cysylltiadau proffesiynol. 

Sut ydw i’n elwa ohono? 
Rydym yn croesawu pawb. Waeth beth fo’ch cefndir neu brofiad – mae’n syml – cysylltwch â ni i ddweud helo. 

Rydym yn eithriadol o awyddus i glywed am syniadau a phrosiectau sy’n: 

  • Berfformiadol a/neu ryngweithiol 
  • Medru cael eu mwynhau gan gynulleidfa ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg  
  • Dod â phobl o wahanol gefndiroedd i gydweithio  

Cynnwys prif artist sydd wedi ei leoli yng Nghymru, a dylai’r gwaith fod wedi ei fwriadu ar gyfer yr awyr agored.  

Gallwch ymweld â gwefan Articulture i weld gwaith celfyddydau awyr agored rydym wedi helpu i’w creu yn y gorffennol  

Terfynau Amser
Y dyddiad cau ar gyfer cysylltu â ni ar gyfer y comisiynau CCAAC yw 5pm ddydd Gwener 3 Mawrth. Ond gorau po gyntaf y gallwch gysylltu â ni.  

Gall tîm Articulture eich cefnogi i ddatblygu eich syniad, fel ei fod yn barod i’w rannu gyda’r partneriaid erbyn 5 pm ddydd Gwener 17 Mawrth. 

Os dewisir eich syniad gan y partneriaid, byddwch yn dechrau datblygu eich syniad gyda chymorth Articulture o ddydd Llun 10 Ebrill. 

Rydym yn rhagweld y bydd y teithio’n dechrau fis Gorffennaf 2023. 

Cysylltwch â Ni 
Os oes gennych syniad, eisiau gwneud cais am gomisiwn neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Julie Ann drwy e-bost, galwad ffôn, neges destun neu ar ein cyfryngau cymdeithasol: 

E-bost: julieann@articulture-wales.co.uk 

Ffôn (ffoniwch neu anfonwch neges destun) – 07890 681212 

Facebook  

Twitter  

Instagram

Ffurflen Gais Ar-lein

Ffurflen Gais 2023 #AgorAllan2023 (Word) Download

AgorAllan2023 Canllawiau Ymgeisio (Word) Download


Caiff #AgorAllan2023 gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.


ACW Lottery Logo

Llun – Nic Finch @chameleonic

Skip to main content