Y mis Ionawr a’r mis Chwefror yma, mae man hap – sef human happenings – yn eich gwahodd i gynllunio taith yn yr awyr agored – mynd am dro neu reid. Taith i rywle sy’n eich ysbrydoli, lle gallech ddychmygu rhywbeth creadigol yn digwydd, gydag unigolyn neu unigolion o’ch dewis.
Yna, cewch eich gwahodd i rannu eich profiad ag eraill mewn digwyddiad ar-lein arbennig a gaiff eu guradu gan ManHap ddydd Gwener 25 Chwefror, er mwyn cyd-greu twr o syniadau a phosibiliadau ledled Cymru wrth inni gamu i 2022.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen Ymgynulliad Celfyddydau Awyr Agored Cymru 2022 – gan danio gwreichion yr enaid ar gyfer celfyddydau awyr agored ar ddechrau’r Gwanwyn.
Bydd eich taith yn cychwyn gyda cherdyn post a anfonir atoch yn y post gan man hap.
Gwahoddiad
man hap ydym ni: human happenings, sef man cefnogol lle gall artistiaid o bob cwr o Gymru ddod ynghyd i gyfarfod, creu a rhannu ar-lein. Drwy gydol y cyfnod clo a thu hwnt, fe wnaethom ddod ynghyd i arbrofi â syniadau a ffurfiau celfyddydol, trwy gynnal ymyriadau a gosod heriau i’n gilydd, yn ogystal â chreu cysylltiadau a meithrin perthnasoedd.
Rydym yn eich gwahodd i gynllunio taith – mynd am dro neu reid i rywle sy’n eich ysbrydoli, lle gallech ddychmygu rhywbeth creadigol yn digwydd neu’n cael ei osod.
I gychwyn ar eich taith, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at Ami (amimarsden@hotmail.com). Rhowch wybod inni ble a phryd fydd eich taith yn cael ei chynnal, a hefyd nodwch eich cyfeiriad post, ac yna byddwn yn anfon cerdyn post man hap atoch i’ch ysbrydoli ar gychwyn eich taith.
Hefyd, os oes modd, byddem wrth ein bodd pe bai modd ichi fynd â rhywun gyda chi, neu gyfarfod ag eraill.
Gall eich sgyrsiau sôn am eich profiad chi o’r lle, y gorffennol/dyfodol/presennol, neu ymyriadau creadigol ar gyfer y lle hwnnw. Ar eich taith, hoffem ichi dynnu lluniau, recordio rhai o’r synau a chofnodi ambell sgwrs a gewch gyda’ch cydymaith neu eich cymdeithion. Os byddwch ar eich pen eich hun, gallwch rannu pethau gyda ni trwy gyfrwng fideo neu alwad ffôn.
Rhannu eich taith
Hoffem ichi ddewis 5 llun, hyd at 2 funud o sain a rhan o’ch sgwrs a fydd yn crynhoi rhai o’r syniadau a drafodwyd gennych.
Yna, a wnewch chi eu hanfon atom cyn gynted ag y daw eich taith i ben.
Anfonwch luniau ar ffurf ffeiliau JPG, ynghyd â synau a thameidiau o sgyrsiau ar ffurf ffeiliau sain, at Gareth (info@garethclark.com) erbyn dydd Mercher 16 Chwefror.
Digwyddiad ar-lein arbennig – Dydd Gwener 25 Chwefror
Byddwn yn coladu’r deunyddiau a gawn gennych chi ac eraill ac yn paratoi sesiwn rannu fyfyriol ar gyfer digwyddiad ar-lein arbennig. Cynhelir y digwyddiad hwn gan man hap ddydd Gwener 25 Chwefror, 11am-1pm, ac mae croeso cynnes ichi ymuno. Y nod yw cyd-greu twr newydd o syniadau a phosibiliadau ledled Cymru wrth inni gamu i 2022.
Delwedd – Ami Marsden