Cyflwyno derbynwyr Bwrsarïau Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl 2023

By 12th Mai 2023Uncategorised @cy

Mae chwe artist wedi ennill ‘Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl’ er mwyn creu perfformiad newydd ar gyfer yr awyr agored.

Mae Articulture, ar y cyd â Surge, Gŵyl Spraoi ac Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wedi cynnig cyfle i artistiaid o’r DU ac Iwerddon wneud cais am fwrsari a chyfle i ddatblygu fel artist, gyda’r nod o greu casgliad o ddarnau newydd o gelf ar gyfer yr awyr agored, a fydd yn mynd ar daith i’r gwyliau canlynol yn ystod haf 2023: Gŵyl y Dyn Gwyrdd (Cymru, mewn partneriaeth ag Articulture) Spraoi (Iwerddon, mewn partneriaeth ag ISACS) Gŵyl Surge (Yr Alban, mewn partneriaeth ag Articulation)

Yr artistiaid sydd wedi’u dewis ar gyfer 2023 yw Gaia Cicolani (Cymru), George Hampton Wale (Cymru), These Two Idiots (Iwerddon), Jazzville Productions (Iwerddon), The Doing Group (Yr Alban) ac [ON AIR] (Yr Alban/Lloegr).

Dechreuodd prosiect Pedair Cenedl 2023 gyda chyfnod preswyl dros bedwar diwrnod yng nghefn gwlad Argyll, yr Alban, ym mis Ionawr 2023, lle cafodd yr artistiaid dethol gyfle i rwydweithio a datblygu eu syniadau creadigol dan arweiniad mentoriaid blaenllaw a rhaglenwyr yr ŵyl. Mae Bwrsarïau Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl 2023 wedi’u cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Articulation, the Arts Council of Ireland, Outdoor Arts UK ac ISACS.

Cwrdd â’r Artistiaid o Gymru
Mae Gaia Cicolani yn artist ecltectig o Torino, yr Eidal, ond ar hyn o bryd, mae hi’n byw yng Nghaerdydd, Cymru.

Mae hi’n dod o gefndir bale a dawns gyfoes, a chelf gain a hanes celf. Dywedodd Gaia, “Mae Miss B. yn gymeriad chwareus sy’n chwilfrydig am yr amgylchedd a’i breswylwyr. Cafodd ei chanfod gyntaf yn mynd drwy’i phethau yn ei hystafell fyw, ond mae bellach yn amser iddi gamu oddi wrth y sgrin! Mae hi allan ar grwydr, yn awyddus i wneud cysylltiadau ac yn edrych ymlaen yn arw at rannu symudiadau eiconig gyda phobl lwcus iawn y bydd yn cwrdd â nhw ar hyd y ffordd.”  

“Rwy’n ddiolchgar o allu datblygu ei phrosiect i fod yn gynhyrchiad byw, rhyngweithiol, a fydd yn cael ei gyflwyno fel darn penodol i safle y gellir ei archwilio ar droed. Mae bod yn un o dderbynwyr Bwrsari’r Pedair Cenedl yn daith hynod hyfryd, gyda’r cymorth iawn, profiadau arbennig, a nifer o gyfleoedd gwych i gysylltu a dod i adnabod y byd Gwyliau a Chelfyddydau Awyr Agored.

Mae George Hampton Wale yn artist, dylunydd a gwneuthurwr o’r Fenni, de Cymru, sy’n gweithio gyda thecstilau ac offer gwnïo i greu cerfluniau, perfformiadau a gwisgoedd.  

Dywedodd George, “Ar gyfer Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl, rwy’n gweithio tuag at ddatblygu darn cerflun-perfformiad o’r enw ‘FETCH’ (teitl dros dro).  Mae ‘Fetch’ yn derm meteorolegol sy’n disgrifio’r pellter mae gwynt yn ei deithio dros gorff o ddŵr mewn un cyfeiriad.  Mae ‘FETCH’ yn defnyddio gwisgoedd, sain, symudiad a cherflun chwyddadwy mewn ffordd sy’n archwilio a thynnu sylw at sut rydym yn symud ar a thrwy byd-tywydd a sut mae’r grymoedd hyn yn llywio ein bywydau.”

“Rwy’n ymddiddori mewn ystyried yr awyr a’r gwynt fel deunydd a sut rydym yn cyfleu’r pethau anweledig, hollbresennol hyn, yn weladwy.  Mae ‘FETCH’ yn cynnwys elfen o gêm, yn ogystal â dyfais mesur, ac mae hefyd yn ymgais i gyd-ddawnsio â’r gwynt.  Mae gweithio gydag Articulture yn ddilyniant cyffrous yn fy ngwaith, gan mai dyma fydd y tro cyntaf i mi gyflwyno gwaith yn yr awyr agored.  Mae cysylltu gydag artistiaid eraill, mentoriaid a chynhyrchwyr fel rhan o garfan y Pedair Cenedl wedi ehangu fy nghysylltiadau a’m harfer.”

Pedair Cenedl Taith 2023:
https://articulture-wales.co.uk/get-involved/pedair-cenedl-taith-2023/?lang=cy

Cwrdd â’r Artistiaid o Iwerddon Mae Édaein Samuels a Peter Moran, These Two Idiots, yn cyflwyno ‘Beach Barrage’. Mae dau dwpsyn yn cyrraedd traeth, gyda’r nod o fwynhau eu diwrnod perffaith eu hunain, ond mae cynlluniau’r ddau’n gwrthdaro. Beth allai fynd o’i le? Gwyliwch wrth iddynt ddringo dros ei gilydd, o dan ei gilydd ac o gwmpas ei gilydd er mwyn bod ar y blaen.

Mae Jazzville Productions yn cynnwys yr artist dawns Ksenia Parkhatskaya a’r cyfansoddwr a basydd o Iwerddon, David Duffy. Byddwch yn barod i gwrdd â ‘The Most Dangerous Animal in The World’. Mae dafad, sydd wedi’i halltudio a’i diarddel o’i chymuned ynysig oherwydd ei hysbryd anturus, yn cyrraedd y ddinas… A yw bod yn wahanol yn beryglus? A fydd hi’n gallu dod o hyd i braidd newydd yma? Ac a yw dafad yn gallu dawnsio a chanu fel seren enwog?

Cwrdd â’r Artistiaid o’r Alban/Lloegr

Yn bryderus am y sefyllfa bresennol, mae The Doing Group yn ymgymryd â gwaith atgyweirio ar safle’r ŵyl hyd gorau eu gallu gyda’u gwybodaeth gyfyngedig. Nid oes unrhyw waith yn rhy fach, nid oes unrhyw waith yn rhy fawr, nid oes unrhyw waith yn rhy ansylweddol nac unrhyw waith yn rhy wahanol. Byddwch yn barod i gael eich is-gontractio yn ystod y broses, mae angen yr holl help yn y byd arnynt, ac mae’n rhaid iddynt ddefnyddio pob ceiniog o’r gyllideb.

Mae [ON AIR] yn sioe radio weledol sy’n archwilio themâu ffantasi, gwrywdod, a “blacksploitation”.  Mae wedi’i chyd-greu gan berfformwyr Brenin Drag, Symoné a Porcha Present, mewn cydweithrediad â senograffwyr, MHz. Wrth ymlithro drwy strydoedd heulog y DU yr haf hwn, bydd y cyflwynwyr Radio answyddogol, Barry Badass a ‘The Pussy Tamer’, neu Uncle Pete, yn ceisio dod o hyd i’r cryndod perffaith, er mwyn cysylltu â’r pwynt delfrydol wrth gyflwyno eu sioe.  Yn cynnwys ego mawr, adroddwyr seicedelig lleol a bol hudolus Uncle Pete – mae’r criw’n llywio’r tonnau awyr ac yn ceisio peidio. â. cholli’r. siiigggnaaaaal!

Symone gan Corrienne Cummings
Skip to main content