Mae FETCH yn defnyddio gwisg, sain, symudiad a cherflun chwyddadwy fel modd o archwilio a thynnu sylw at y ffyrdd rydym yn symud yn, ar a thrwy byd-tywydd a sut mae’r grymoedd hyn yn llywio ein bywydau. Mae FETCH yn cynnwys elfen o gêm, yn ogystal â dyfais mesur, ac mae hefyd yn ymgais i gyd-ddawnsio â’r gwynt.
Artist, dylunydd a gwneuthurwr o’r Fenni, De Cymru yw George Hampton Wale sy’n gweithio â thecstilau a gwnïo i greu cerflun, perfformiad a gwisg.