FRESH 2023 – Digwyddiad Rhyngwladol ar gyfer Datblygu Syrcas Gyfoes a Chelfyddydau Awyr Agored
Mae’n rifyn arbennig eleni ym Mharis, i ddathlu 20fed pen-blwydd y rhwydwaith!
Medi 20 – 22, 2023.
Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Circostrada Network ac ARTCENA mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol a restrwyd isod. Bydd y “rendez-vous” cyffrous hwn yn dod â chwaraewyr, artistiaid, rhaglenwyr, newyddiadurwyr, ymchwilwyr, a gwneuthurwyr polisi syrcas gyfoes a chelfyddydau awyr agored ynghyd ar gyfer tridiau o drafod a dadlau brwd.
Gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae gan Articulture y cyfle i fynd â grŵp bychan o gynrychiolwyr o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, sy’n cael ei gynnal mewn sawl lleoliad ledled y brifddinas ac yn y maestrefi. Mae’r gefnogaeth ariannol yn talu am werth hyd at £940 o gostau teithio, llety a bwyd wedi’u derbynebu.
Mae’n gyfle i rwydweithio ag aelodau Circostrada o bob cwr o Ewrop a thu hwnt. Bydd sgyrsiau, perfformiadau, teithiau ac amser i gysylltu.
Bydd diwrnod arferol yn cynnwys digwyddiad mewn arddull cynhadledd yn y bore, 2 awr o ginio rhwydweithio, ymweliadau lleoliad a pherfformiad yn y prynhawn a chymdeithasu / perfformiad gyda’r nos.
Bydd y rhaglen lawn ar gael o 15 Mai, sef y dyddiad mae cofrestru yn agor ar gyfer y digwyddiad. Gweler unrhyw ddiweddariadau ar dudalen digwyddiad Circostrada.
Os ydych ar gael rhwng 20-23 Medi ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o grŵp o unigolion creadigol y celfyddydau awyr agored, cysylltwch ag annie@articulture-wales.co.uk ar neu ffoniwch hi ar 07980 337951.
Nid ydym yn gwybod pa mor hir fydd y llefydd hyn ar gael ar gyfer y digwyddiad, felly cysylltwch â ni erbyn 5pm ar 14 Mai i fynegi’ch diddordeb.
Nodwch fod yn rhaid i’r unigolion creadigol sy’n ymuno â ni fyw yng Nghymru a naill ai weithio yn y byd celfyddydau awyr agored, neu gael cysylltiad agos iddo. Bydd gofyn i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad greu blog ysgrifenedig, fideo neu sain am yr ymweliad erbyn diwedd mis Medi.
PARTNERIAID ALLWEDDOL Circostrada Network ac ARTCENA ar ‘FRESH 2023’: La Villette; Espace Périphérique; FAI-AR- Formation supérieure d’art en espace public; Le Moulin Fondu, Centre national des arts de la rue et de l’espace public – Compagnie Oposito; Festival PRIMO 2023; Centre National de la Danse, Le Plus Petit Cirque du Monde; Le Lycée avant le lycée; L’Azimut – Pôle National Cirque en Ile-de-France -Antony/Châtenay-Malabry; La Coopérative De Rue et De Cirque (2r2c); circusnext a Le Monfort.