Camwch allan gyda sesiynau Celfyddydau Awyr Agored newydd ar Zoom y mis Gorffennaf hwn

By 7th Gorffennaf 2020Uncategorised @cy

Ymunwch ag Articulture a gwesteion arbennig gyda chyfres newydd o sesiynau Zoom creadigol ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf, yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu celf mewn man cyhoeddus.

Rydym ar bigau i ddechrau’r gyfres gyda’n cyd-westeiwyr, National Association of Street Artists (NASA-UK), rhwydwaith hynod greadigol, ac weithiau, gwrthryfelgar, y DU o artistiaid a chynhyrchwyr – gweler y rhaglen ryngalaethol isod!

Gall celfyddydau awyr agored cynhwysol, chwyldroadol ac amrywiol chwarae rhan yn ein helpu i lywio ffyrdd newydd o weithio, a’r iachâd sydd ei angen ar ein cymdeithas i ailadeiladu ei hun. Ymunwch â’r heulwen rithiol neu allan yn eich gardd neu ar y stryd i ailgysylltu, arbrofi a rhannu, gan archwilio creu ac arddangos gwaith newydd yn yr amseroedd anodd hyn, gyda chymaint o fwynhad a chreadigrwydd ag y gallwn ei wasgu i mewn.

Bydd sesiynau Zoom Creadigol Articulture yn cael eu cynnal rhwng Gorffennaf a Thachwedd 2020. Maent yn agored ac yn anffurfiol – mae croeso i chi alw heibio fel y mynnwch yn ystod y ddwy awr gyda’ch cinio, plant, anifeiliaid anwes – a gyda chroeso i bawb gymryd rhan a helpu i siapio’r gyfres wrth iddi fynd rhagddi.

Fel grŵp amrywiol o weithwyr llawrydd yng Nghymru, mae Articulture yn croesawu pobl o bob cefndir, diwylliant a gallu yn cynnwys pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid, pobl fyddar, anabl, niwro-ddargyfeiriol a dosbarth gweithio a/neu LGBTQI+ i’r gofod hwn. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion mynediad sydd gennych ymlaen llaw, fel y gallwn ddarparu cyfleusterau i chi allu cymryd rhan.

Wythnos 1 – ‘Yn y gofod’

Cynhelir ar y cyd gan Articulture a Gareth Price-Baghurst (The Fabularium) a Sophia Knox-Miller (Physical Fool) o’r National Association of Street Artists (NASA-UK).

> 11:30 – 12:00pm Cwrdd a chymysgu

Cewch gyrraedd ar eich cyflymder eich hun am gyfle i gwrdd a chymysgu’n anffurfiol. Cyfle i sgwrsio â’r hwn a’r llall, gyda’r opsiwn o fynd i fannau tawel am gyfarfodydd llai.

> 12:00 – 12:15pm Gwib-fachu rhyngalaethol 

2 rownd fer o bodiau bach (h.y. ystafelloedd grŵp) i gwrdd, cyfarch, a chyflwyno eich hun i bwy bynnag y dewch ar eu traws yno!

> 12:15 – 12:25pm Dod o hyd i’ch modiwl lleuadol 

Lle cawn ein didoli i ystafelloedd a gwneir rhai cyhoeddiadau. Cewch ddewis eich antur eich hun! Nid oes angen i chi ddweud wrthym ymlaen llawn, byddwn yn eich didoli yn y fan a’r lle.

> 12:25 – 1:00pm Anturiaethau mewn gofod(au)

Modiwl lleuadol 1: Gofod Creadigol – Byddwch yn dyfeisio/penderfynu ar y cyd, ar weithred i’w pherfformio ar eich strydoedd ar yr un pryd, yn ei ffilmio ac yn gweithio allan y ffordd orau i’w rhannu gyda’r brif ystafell! Dan arweiniad Sophia Knox-Miller, NASA a Physical Fool.

Modiwl lleuadol 2: Rhannu Gofod – Sut wyt ti? Beth wyt yn ei wneud? Ddim yn ei wneud? Cyfle i ddangos eich syniadau, gwaith ar y gweill a phrosiectau cyfredol gydag eraill i drafod, datrys problemau ac adeiladu.

Modiwl lleuadol 3: Gofod Ymarferol – Dyma’r sesiwn gyntaf mewn cyfres o sesiynau Zoom creadigol. Beth hoffech ei weld nesaf? Nodwch yma eich syniadau ar gyfer y rhai nesaf ac os hoffech gydweithio.

Yr ‘Airlock’ (h.y. yr oerydd dŵr) – Y man cwrdd.

> 1:00 – 1:25pm Pob grŵp yn adrodd yn ôl i’r brif ystafell yn dilyn trafodaeth gyffredinol

> 1:25 – 1:30pm Cloi

Peidiwch ag anghofio bod croeso i chi ddod â chefndir rhithiol os hoffech. Dewch o hyd i ddelwedd sy’n cynrychioli eich gwaith – logo neu lun, etc, i’w ddefnyddio fel cefndir rhithiol drwy gydol y sesiwn fel ffordd o ddod i adnabod y naill a’r llall yn well. Bydd rhaid i’r ddelwedd fod ar ffurf llun h.y. jpeg, png, neu bmp i Zoom allu ei defnyddio.

Bydd angen dolen a chyfrinair Zoom arnoch i ymuno. E-bostiwch rosie@articulture-wales.co.uk i gael y ddolen, neu cofrestrwch i’n rhestr bostio ar ein tudalen hafan i dderbyn diweddariadau awtomatig.

Sut i ymuno

Bydd angen dolen a chyfrinair Zoom arnoch i ymuno.

E-bostiwch rosie@articulture-wales.co.uk i gael y ddolen, neu cofrestrwch i’n rhestr bostio ar ein tudalen hafan i dderbyn diweddariadau awtomatig.

Roedd y prosiect yma’n bosibl gydag arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Delwydd –  ‘Vescapades’ – Kitsch n SyncDan Green photography.

Skip to main content