Nod CELFLUN yw creu rhaglen o brofiadau a digwyddiadau celfyddydol creadigol dan thema’r amgylchedd sydd yn canolbwyntio ar y gymuned a’r ardal leol mewn lleoedd ffisegol a digidol.
Cynghrair partneriaeth creadigol yw CELFLUN rhwng Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliannol Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture. Mae’n cynnwys cyfranogion a chymunedau celfyddydol lleol.
Ffurfiwyd y bartneriaeth i ymgysylltu’n ddychmygus â chymunedau i ysgogi ailgysylltu, a thanio brwdfrydedd am ofalu am yr amgylchedd yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Rydym am hyrwyddo lles pobl trwy brofiadau celfyddydol sy’n perthyn i’w gilydd. Bydd y rhain yn ddigidol / rhithwir ac yn rhai sy’n seiliedig ar le a’r amgylchedd.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid, ymarferwyr creadigol neu grwpiau sy’n gweithredu ar y cyd ac sy’n byw neu’n gweithio ym Mhowys.
Am friffiau a therfynau amser creadigol cliciwch yma