#AgorAllan2021 – Cyfle i greu a theithio celf awyr agored newydd yng Nghymru

By 1st Ebrill 2021Uncategorised @cy

#AgorAllan2021

Cyfle i greu a theithio celf awyr agored newydd yng Nghymru

Y gwanwyn hwn, mae Articulture a phartneriaid yn lansio #AgorAllan – gyda chronfa o £15K ar gyfer artistiaid nad ydynt yn cael eu hamlygu’n ddigonol i ddatblygu a theithio celf awyr agored newydd yng Nghymru. A oes gennych chi syniad? Mae’n hawdd – yn syml, cysylltwch â ni i ddeud helo.

Ysbryd y cyfle hwn yw ‘agor allan’ – agor lleoedd, syniadau, posibiliadau a chamu allan yn yr awyr agored gyda’i gilydd.

Mae’r cyfle hwn i artistiaid sydd eisiau gweithio yn y Gymraeg, y rhai sy’n uniaethu fel Pobl Dduon, Frodorol neu Bobl o Liw a phobl sy’n Fyddar neu’n Anabl. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan y rhai sy’n gweithio yn yr awyr agored, a’r rhai a hoffai wneud hynny am y tro cyntaf. Rhaid i’r prif artist fod wedi ei leoli yng Nghymru.

Rydym yn croesawu syniadau sy’n –

* Digwydd mewn ‘man cyhoeddus’ yn y lleoliad a lleoliadau gŵyl partner

* Medru cael eu mwynhau gan gynulleidfa ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg

* Ystyried heriau a chyfleoedd ymbellhau cymdeithasol a’r tywydd

* Dod â phobl o wahanol gefndiroedd i gydweithio

* Gellir ei chreu ar gyfer cyllideb o hyd at £5,000

Gallwch ymweld â gwefan Articulture i weld delweddau a ffilmiau o waith celf awyr agored rydym wedi helpu i’w creu yn y gorffennol – https://articulture-wales.co.uk/book/

Yn ogystal â’r £5,000, bydd Articulture yn gweithio gyda’r artistiaid a ddewisir i ddarparu cymorth ar bob cam o greu a theithio’r gwaith. Gall hyn gynnwys creu, cynhyrchu, marchnata a chynhyrchu.

Partneriaid a’u lleoliadau – 

* Gŵyl Beyond the Border, Sir Gaerfyrddin

* Theatr Clwyd, yr Wyddgrug

* Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

* Pontio, Bangor

* Eisteddfod Genedlaethol Cymru

* Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

* Glan yr Afon, Casnewydd

* Taliesin (Dyddiau Dawns), Abertawe

* Ffwrnes, Theatrau Sir Gâr, Llanelli

* Ymddiriedolaeth AWEN, lleoliad i’w gwblhau

* Y Neuadd Les Ystradgynlais

* The Borough, y Fenni

Mae’r partneriaid hyn yn gweithio gyda’i gilydd fel grŵp o’r enw ‘Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru’, sy’n cael ei reoli gan Articulture. Maent am gefnogi mwy o gelf yn yr awyr agored ym mhob un o’u lleoliadau, i’w cynulleidfaoedd gymryd rhan ynddynt a’u mwynhau.

Y cynllun yw i’r tri gwaith awyr agored newydd fynd ar daith i leoliadau’r partneriaid yn 2021 a 2022. Nid yw’r dyddiadau wedi’u pennu eto, a byddant yn cael eu trefnu gyda’r partneriaid pan gaiff syniadau eu datblygu.

Oes gennych chi syniad?

Cysylltwch â ni i ddweud helo –

E-bost – rosie@articulture-wales.co.uk

Ffôn (ffoniwch neu anfonwch neges destun) – 07966 071073

Facebook – facebook.com/ArticultureWales

Twitter – @Articulture_

Beth sy’n digwydd nesaf?

Gall tîm Articulture eich cefnogi i ddatblygu eich syniad, er mwyn iddo fod yn barod i’w rannu gyda’r partneriaid erbyn dydd Gwener 7 Mai.

Bydd y partneriaid wedyn yn edrych ar eich syniad, ynghyd ag eraill. Byddant yn dewis pa syniadau i’w datblygu gyda’i gilydd.

Os dewisir eich syniad gan y partneriaid, byddwch yn dechrau datblygu eich syniad gyda chymorth Articulture o Dydd Llun 17th Mai.

Efallai y bydd teithio’n bosibl o ddechrau mis Gorffennaf – yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID

#Cefnogir AgorAllan2021 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.

Skip to main content