![](https://i0.wp.com/articulture-wales.co.uk/wp-content/uploads/2020/09/tableland2.jpeg?fit=2559%2C1708&ssl=1)
Cyfleoedd ar gyfer adfywio creadigol ac antur ryngwladol y mis hwn, yn ogystal â chefnogaeth barhaus i’r celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru.
Gweithdy Byw ac Ymarfer Clywedol gyda Simon Whitehead – 8 + 22 Medi
Cyfle i artistiaid symudiadau gamu i’r awyr agored ac archwilio eu tirweddau lleol gyda ‘Going Home…Home is always going’ – gweithdy byw ac ymarfer clywedol gyda’r artist blaenllaw Simon Whitehead – mewn cydweithrediad â Groundwork ac Articulture.
*Gweithdy Ymarfer Corff Byw
Dydd Mawrth 8 Medi 2020 – 11.30am – 12.30pm – Ar-lein
Mae Simon yn gwahodd pobl i archwilio sgoriau a fframweithiau i weithio in situ ac o bell gydag eraill.
*Ymarfer Clywedol
Ar gael o ddydd Mawrth 22 Medi
Ymarfer drifft a chyfansoddiadol wedi’i greu gan Simon i archwilio eich bro, gyda chyfle i rannu eich myfyrdodau – ysgrifennu, recordiadau, darluniau.
Mae’r gwaith ar y cyd hwn rhwng Groundwork ac Articulture yn dwyn ynghyd dwy fenter gyfredol i ysbrydoli creadigaeth yn ystod y cyfnod clo – Ymarfer Corfforol Byw Groundwork, a sesiynau Creadigol y Celfyddydau Awyr Agored Articulture dros Zoom.
Am fanylion llawn ac archebu ewch yma
![](https://i0.wp.com/articulture-wales.co.uk/wp-content/uploads/2019/02/ArticultureGathering2018_km_200.jpg?resize=1024%2C683&ssl=1)
Cefnogaeth barhaus i’r celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru
Siarad â’r tîm
Mae’r tîm Articulture yn cynnig seinfwrdd wedi’i groesi â gwasanaeth ymholi gyda chyfeirio, mentora, ymweliadau safle ac ymarfer a mwy. Mae hyn yn parhau yn y cyfnod hwn o heriau a chyfleoedd newydd. E-bostiwch i drefnu sgwrs i siarad am eich barn, eich syniadau, eich heriau, eich pryderon, eich ysbrydoliaeth – annie@articulture-wales.co.uk
Outdoor Arts UK – Adnoddau a Chronfeydd Data Covid 19
Er bod Llywodraeth Cymru yn dechrau treialu digwyddiadau awyr agored o’r wythnos hon ymlaen, cyn rhyddhau canllawiau pellach ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, mae Articulture yn argymell cyfeiriadur cynhwysfawr OAUK o adnoddau, gan gynnwys asesiadau risg a chronfa ddata ar gyfer ‘Sioeau i’w Harchebu’.
![](https://i0.wp.com/articulture-wales.co.uk/wp-content/uploads/2020/09/1500x500.jpg?resize=1024%2C341&ssl=1)
Cyfle – Rhwydweithio rhyngwladol – FiraTàrrega
Eisiau rhwydweithio a chyflwyno syniadau’n rhyngwladol? Eleni mae FiraTàrrega – Gŵyl gelfyddydol ryngwladol awyr agored – yn gwneud ei lle cyfarfod proffesiynol enwog yn lle digidol a hirdymor.
Wedi ei enwi’n ‘La Llotja Online’, bydd yn llwyfan ar gyfer gwybodaeth, cyfarfod a chyfathrebu i weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau awyr agored ledled y byd. Mae’n dechrau ar 9/10 Medi gyda deuddydd o gyflwyniadau a digwyddiadau ar-lein. Bydd y cofrestriad yn ddilys tan haf 2021, gan eich galluogi i barhau i rwydweithio, rhannu prosiectau, a chymryd rhan mewn digwyddiadau pellach.
Eisiau mynd? Cysylltwch ag Articulture i drefnu eich ffi gofrestru ac ymunwch â ni ar 9/10 Medi – rosie@articulture-wales.co.uk
Dyddiad cau cofrestru 6 Medi. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma