Mae dau arolwg ar y gweill gennym ar hyn o bryd – pa un yw’r gorau ar eich cyfer chi?
Arolwg 1
A welsoch chi Holes, Howl or Swan in Love, a gomisiynwyd gan Articulture, mewn digwyddiad awyr agored yng Nghymru yr haf hwn? Cwblhewch yr arolwg hwn – rydym yn cynnal yr arolwg i’n helpu ni i ddysgu mwy am ein cynulleidfaoedd a sut allwn roi’r profiad gorau posib iddynt.
Arolwg 2
A hoffech chi helpu i lywio celfyddydau awyr agored yng Nghymru? Ydych chi ynghlwm neu eisiau bod ynghlwm â threfnu digwyddiadau awyr agored yn eich ardal? Cwblhewch yr arolwg hwn – rydym yn awyddus i gael gwybod beth hoffech chi ei weld yn digwydd yng Nghymru ac ymhle?
Llun: Swan in Love gan Gary & Pel