A ydych chi’n unigolyn creadigol wedi’ch lleoli yng Nghymru sy’n dymuno gwneud gwaith celfyddydau awyr agored newydd a’i anfon ar daith eleni?
Yn 2019 mae Articulture yn gweithio gyda rhwydwaith bywiog o bartneriaid mentrus i gynnig detholiad o gomisiynau celfyddydau awyr agored, yn ogystal â mentora a llwyfannau i arddangos eich gwaith.
Mae’r rhain yn cynnwys mentrau sydd wedi’u creu’n arbennig i greu gwaith yn yr iaith Gymraeg, ac am weithiau a grëir gan artistiaid BAME neu artistiaid anabl.
Mae’r galwadau cyntaf wedi dechrau! Mae’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yn amrywio yn ôl y fenter, gan ddechrau gyda’r cyntaf ar 1af Mawrth.
Am y wybodaeth lawn, ewch yma
Dilynwch ni am ragor o gyhoeddiadau gan y gwneir mwy o alwadau ar Twitter – @Articulture_ a FB – ArticultureWales.
Delwedd – Citrus Arts ‘Ceirw’ (Deer) – Keith Morris