Gwaith Celf Awyr Agored Newydd i Gymru

By 9th Mehefin 2022Uncategorised @cy
Mae'r ddelwedd yn dangos chwe delwedd bortread o artistiaid mewn un llinell, wedi'u gosod yn erbyn cefndir gwyrdd gyda dau sgwâr oren ar onglau. Mae testun gwyn uwchben y delweddau yn darllen ‘Comisynau, Haf 2022’. Mae’r testun gwyn o dan y delweddau yn darllen ‘Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru’, ac oddi tano mae logo Articulture, hefyd mewn gwyn.

Mae Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC) yn gyffrous i gyhoeddi bod dau ddarn o gelf awyr agored newydd wedi’u comisiynu darnau ar gyfer Creu & Mynd ar Daith: Cymru, fel rhan o #AgorAllan2022.

Creu & Mynd ar Daith: Cymru yw’r cyntaf mewn cyfres o gomisiynau a chyfleoedd datblygu i artistiaid yng Nghymru, #AgorAllan2022. Mae’r cyfle ar agor i artistiaid a dangynrychiolir yng Nghymru sy’n eu hystyried eu hunain yn F/fyddar neu’n Anabl, sy’n dod o gefndiroedd Du a/neu Fwyafrif Byd-eang arall, neu sy’n dymuno datblygu a dangos gwaith yn y Gymraeg yn unig.

Ymatebodd mwy na saith deg o artistiaid o bob rhan o Gymru i alwad #AgorAllan2022 ym mis Mawrth, gan gysylltu ag Articulture i siarad am syniadau newydd ar gyfer creu celfyddydau awyr agored yn 2022. O’r artistiaid aeth ymlaen i wneud cais am Creu & Mynd ar Daith: Cymru, dewisodd y consortiwm ddau waith newydd i’w comisiynu.

 

Y ddau waith awyr agored newydd a ddewiswyd i’w comisiynu gan WOAC yw:

Merched y Môr (teitl gwaith)
Perfformiad wedi’i ddilyn gan orymdaith Carnifal, gan ddod ag ysbryd Carnifal Butetown i bobl Cymru trwy gyfuniad o straeon Caribïaidd a Cheltaidd. Gwnaed gan June Campbell-Davies a Keith Murrell o BACA, mewn cydweithrediad â Rhiannon Mair.

Ceri Ann-Arian!
Strafagansa theatr gerdd ryngweithiol, gomedi, wedi’i pherfformio yn Gymraeg, yn archwilio ‘ffenomen’ y Dreth Binc, prynwriaeth a rhywedd trwy ffasiwn theatr gerddorol. Cydweithrediad rhwng Kitsch & Sync Collective a chantores-gyfansoddwraig ddwyieithog, cynhyrchydd cerdd a pherfformiwr theatr TeiFi.

Bydd pob grŵp yn derbyn £5000 tuag at gostau creu eu darn, yn ogystal â phecyn cymorth sy’n cynnwys mentora a marchnata.

 

Mae Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC) yn grŵp o un ar ddeg o leoliadau a gwyliau ledled Cymru sydd am gefnogi creu mwy o gelfyddydau awyr agored, i’w cynulleidfaoedd gymryd rhan ynddynt a’u mwynhau. Bydd y gweithiau dethol yn mynd ar daith o amgylch lleoliadau’r partneriaid yng Nghymru yr haf hwn.

Partneriaid Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru 2022

Borough Theatre, Y Fenni
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Galeri, Caernarfon
Glan yr Afon (Sblash Mawr), Casnewydd
Pontio, Bangor
Taliesin (Dyddiau Dawns), Abertawe
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Theatrau Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin
Y Neuadd Les, Ystradgynlais

“Mae Theatr Clwyd yn falch iawn o fod yn rhan eto o ddatblygu rhaglenni celfyddydau awyr agored eithriadol yng Nghymru, a wnaed yn bosibl trwy waith caled Articulture. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda’r artistiaid dethol i barhau i gynnig rhaglen gyffrous ac amrywiol o gelfyddydau awyr agored i’n cynulleidfaoedd.” – Liz Johnson, Theatr Clwyd

“Mae wedi bod yn bleser siarad â chymaint o artistiaid yng Nghymru eleni fel rhan o #AgorAllan2022, o bobl greadigol profiadol i’r rhai sydd am weithio yn yr awyr agored am y tro cyntaf erioed. Rydym yn gyffrous i gefnogi’r ddau gomisiwn a ddewiswyd gan WOAC – maent yn adlewyrchu rhai o hunaniaethau amrywiol Cymru ac yn ymgysylltu â themâu pwysig a chyfredol. Wrth i ni barhau i gyflwyno’r rhaglen #AgorAllan2022 rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â mwy o artistiaid a chynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.” – Sarah Anne Morton, Articulture

 

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Articulture wrth i ni gyhoeddi dyddiadau teithiau ar gyfer y gwaith newydd hwn ledled Cymru – #AgorAllan2022

Facebook – @ArticultureWales
Twitter – @Articulture_
Instagram – @articulture_wales
Cylchlythyr

 

Caiff #AgorAllan2022 gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.

 

Skip to main content