Ydych chi’n artist Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig yn gweithio yng Nghymru?
Mae Articulture, mewn partneriaeth â Glan yr Afon Casnewydd, yn galw am unigolion creadigol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n rhan o’r gymuned BAME yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth i ymgeisio i wneud gwaith awyr agored newydd yn 2019.
Yn ogystal â chefnogaeth i greu’r gwaith newydd, bydd yr unigolyn creadigol a ddewisir hefyd yn derbyn mentora a’r cyfle i arddangos y gwaith yn yr Ŵyl Sblash Mawr yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd.
Mae’r comisiwn yn un o gyfres o gomisiynau strategol sydd dan brawf yn 2019 gyda’r nod o gynyddu’r amrywiaeth o artistiaid, rhaglenwyr a chynulleidfaoedd yng Nghymru sydd ynghlwm â gwaith awyr agored. Mae eraill yn cynnwys gwaith ar y cyd ag unigolion creadigol sy’n gweithio yn yr Iaith Gymraeg, ac artistiaid anabl.
Mae croeso i artistiaid sy’n gwneud cais i un o’r comisiynau strategol wneud cais i Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru hefyd.
Lawrlwythwch wybodaeth a ffurflen gais yma
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd lenwi ffurflen cyfle cyfartal
Dyddiad Cau 8 Mawrth 2019.
Angen ysbrydoliaeth? Gweler comisiynau blaenorol gan Articulture a’i bartneriaid yma
Delwedd – Gweithdy Puppet Articulture @ Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth