
A ydych chi’n unigolyn creadigol wedi’ch lleoli yng Nghymru sy’n dymuno gwneud gwaith awyr agored newydd a’i anfon ar daith eleni?
Mae Articulture, mewn cydweithrediad â Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru (WOAC), yn gwahodd unigolion creadigol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru o unrhyw ddisgyblaeth i wneud cais am gefnogaeth i greu a darparu gwaith celfyddydol awyr agored newydd i’w gyflwyno a’i anfon ar daith i hyd at saith lleoliad yn 2019.
Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae WOAC yn bartneriaeth gydweithrediadol o sefydliadau celfyddydol blaenllaw sy’n cefnogi datblygiad a thaith celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru. Eleni, y partneriaid yw – Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Pontio, Glan yr Afon Casnewydd, Theatr Hafran a LLAWN.
*Sylwer, mae comisiwn WOAC yn agored i bawb. Mae comisiynau peilot eraill yn cael eu targedu at ddemograffeg penodol i sicrhau bod mwy o amrywiaeth o waith wedi’i greu ac mae artistiaid yn cael eu cefnogi. Nid yw hyn yn golygu na all yr artistiaid hynny wneud cais i’r alwad agored.
Lawrlwythwch wybodaeth a ffurflen gais yma
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd lenwi ffurflen cyfle cyfartal
Dyddiad Cau 1 Mawrth 2019
Angen ysbrydoliaeth? Gweler comisiynau blaenorol gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru yma
Delwedd – Citrus Arts ‘Ceirw’ (Deer) – Keith Morris