Sul 5 Mai, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Canolfan Owain Glyndwr, 10.30am – 12pm.
Fe’ch gwahoddir chi i sesiwn gyntaf Articulture Haf 2019, sy’n cynnwys gweithgareddau rhwydweithio a thrafod gyda arweinwyr blaenllaw yn y maes yn edrych ar themau cyfoes mewn digwyddiadau ar draws Cymru.
Sioned Edwards, Dirprwy Bennaeth Artistig Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cêt Haf, perfformwraig, a Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch, yn trafod eu profiadau o raglennu a chreu gwaith yn yr awyr agored yn yr iaith Gymraeg. Hyn oll dros baned a chacen!
Fel rhan o raglen fyrlymus a phrysur Gŵyl Gomedi Machynlleth, bydd cyfle i fwynhau’r ŵyl yn y prynhawn, i weld perfformiad awyr agored Kitsch & Sync ‘Rhamant ar y Palmant!’, sydd wedi ei gomisiynu gan Articulture a phartneriaid.
Bydd y sgwrs yn y Gymraeg gydag offer cyfieithu ar y pryd ar gael.
I archebu tocyn, cysylltwch â rosie@articulture-wales.co.uk.
Cynllun ar y cyd rhwng Articulture, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a Gŵyl Gomedi Machynlleth gyda chefogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa’r Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru.
Delwydd – Gwyl Hen Linell Bell 2019, Theatr Arad Goch, Aberystwyth.