
Galwad ar gyfer Toolbox International
Cyfle datblygu cynhyrchwyr yn canolbwyntio ar gelfyddydau awyr agored / mewn mannau cyhoeddus
11 sesiwn, Mai 22 – Tach 22
Rhaglen arwain a datblygu hynod lwyddiannus yw ‘Toolbox’. Fe’i datblygwyd gan 101 Outdoor Arts (canolfan genedlaethol y DU ar gyfer celfyddydau mewn mannau cyhoeddus) a Bettina Linstrum, Arts Agenda.
Mae Articulture-Cymru yn cydweithio â 101 OUTDOOR ARTS a phartneriaid yn yr Alban, Portiwgal, Catalonia a Denmarc er mwyn gallu cyflwyno ‘toolbox’ o fewn fframwaith rhyngwladol.
Rhaglen arweinyddiaeth ddiwylliannol ar-lein, am ddim yw Toolbox International 2022. Ei nod yw galluogi cynhyrchwyr celfyddyd awyr agored i ddatblygu eu sgiliau a dysgu mewn cyd-destun rhyngwladol, cefnogol. Mae’n cynnig cyfle i gymryd amser penodol i fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol gyda chymorth cynhyrchwyr eraill ac arweinwyr arbenigol.
Mae angen i bawb sy’n cymryd rhan yn rhaglen Toolbox International:
Feddu ar o leiaf dwy flynedd o brofiad o weithio’n broffesiynol yn y celfyddydau
Feddu ar brofiad o reoli a chyflawni prosiectau mewn mannau cyhoeddus / yn yr awyr agored
Ymrwymo i gymryd rhan yn y rhaglen gyfan.
Mae’r dyddiadau ac amseroedd, a gwybodaeth hanfodol arall, ar gael ar y wefan:
https://101outdoorarts.com/labs/toolbox-international
I wneud cais: Os ydych yn ymgeisio o Gymru, cysylltwch ag Articulture gan ddarparu CV a llythyr eglurhaol yn rhoi manylion eich cefndir perthnasol a’r hyn yr hoffech ei gael o’r profiad. Gofynnwn yn garedig ichi anfon y rhain atom erbyn 5pm ar ddydd Gwener 29 Ebrill fan bellach, drwy e-bost i zoe@articulture-wales.co.uk
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Ryngwladol y Pedair Gwlad
Cyngor Celfyddydau Cymru; Alban Greadigol; Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon