Digwyddiadau i ddod – Ail-ddychmygu Gwyliau ar-lein + Tirweddau Creadigol

By 20th Medi 2020Uncategorised @cy

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiadau ‘Tirweddau Creadigol’ ar-lein byw gydag amrywiaeth o westeion arbennig ddydd Gwener yma, ac ‘Ail-ddychmygu Gwyliau Ar-lein’ gyda Hijinx, Krystal Lowe a Gŵyl y Dyn Gwyrdd ddydd Mawrth nesaf. Darllenwch ymlaen am fanylion.

Ail-ddychmygu Gwyliau ar-lein –
Adlewyrchu ar Faes ‘Field of Dreams’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2020

Dydd Mawrth 29 Medi 1pm – 2.30pm
Mewn partneriaeth â Hijinx a Gŵyl y Dyn Gwyrdd


Mae camu i’r byd rhithwir eleni wedi bod yn broses ddysgu fawr yn llawn heriau a chyfleoedd i’r celfyddydau awyr agored.

Ymunwch â thîm Gŵyl y Dyn Gwyrdd ac artistiaid gan gynnwys Hijinx, Krystal Lowe a Chloë Clarke i fyfyrio a holi:

  • Sut mae’r fformat newydd wedi effeithio ar ryngweithio a hygyrchedd y gynulleidfa?
  • Beth oedd manteision a heriau’r broses greadigol?
  • Ac i ble’r awn ni oddi yma?

Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyfle i fwynhau bar Metamorffosis Hijinx, sesiwn holi-ac-ateb agored gyda gwesteion a chyfle i rwydweithio a dal i fyny ag eraill, yn ogystal ag ambell syrpreis!

Darperir Iaith Arwyddion Prydain, Sgrindeitlo a chyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg. Rydym yn croesawu’n gynnes bobl o bob cefndir, gallu a diwylliant gan gynnwys Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig/pobl croenliw, ffoaduriaid, B/byddar, anabl, niwrowahanol, dosbarth gweithiol a/neu LGBTQI+ i’r man hwn.

I gymryd rhan byddwch angen mynediad i Zoom – cysylltwch â ni os oes angen cymorth technegol arnoch i’w ddefnyddio.

Manylion
I archebu lle anfonwch e-bost at: – zoe@articulture-wales.co.uk

Tirweddau Creadigol –
Digwyddiadau ar-lein byw a phodlediadau

Dydd Gwener 25 Medi

Tirweddau Creadigol – Cenedlaethau’r Dyfodol – Digwyddiad Byw Ar-lein – 11am – 12pm

Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn bolisi’r llywodraeth gyda ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’.

Bydd Rosie Strang, Cyd-gyfarwyddwr Articulture yn siarad â Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, a Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru ac aelod o Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, ynglŷn â sut mae cydweithrediadau traws-sector rhwng diwylliant a’r amgylchedd yma yng Nghymru ac ar draws ffiniau yn gallu ein helpu i gwrdd â’n heriau cyfredol o anghydraddoldeb, pandemig ac argyfwng hinsawdd, i ofalu am genedlaethau’r dyfodol.

Manylion / gwyliwch yn fyw yma

Tirweddau Creadigol – Cydweithrediadau – Digwyddiad Byw Ar-lein – 1.30pm – 2.30pm

Ymunwch â Lisa Heledd-Jones o StoryWorks a rhai o’r artistiaid, cynhyrchwyr, a rheolwyr tir o’r gyfres podlediad Tirweddau Creadigol mewn sgwrs fyw i fyfyrio gyda’i gilydd ar weithio ar y cyd nawr ac yn y dyfodol.

Manylion / gwyliwch yn fyw yma

Mannau agored ar gyfer prosiectau celfyddydau awyr agored newydd – Digwyddiad Byw Ar-lein – 3.30 – 4pm

Oes gennych chi syniad creadigol ar gyfer prosiect awyr agored newydd?

Ydych chi’n rheolwr tir sydd eisiau datblygu prosiectau neu ddigwyddiadau newydd?

Mae Articulture yn sefydliad sy’n ymroddedig i ddatblygu celfyddydau awyr agored yng Nghymru ac mae’n gwahodd pobl greadigol a rheolwyr tir o Gymru, Lloegr a thu hwnt sydd â diddordeb mewn gweithio fel hyn i alw heibio i fan agored anffurfiol i gael dishgled a thrafod syniadau, uchelgeisiau a chwestiynau.

Manylion
Archebu lle – mae angen cofrestru am ddim o flaen llaw, anfonwch e-bost i: rosie@articulture-wales.co.uk i archebu eich lle.

Skip to main content