Celfyddydau Awyr Agored Newydd: Dyddiadau Cyntaf Taith 2022

By 6th Gorffennaf 2022Uncategorised @cy

Mae Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru ar ben eu digon i gyhoeddi dyddiadau cyntaf daith ar gyfer dau ddarn o waith celf awyr agored newydd sydd wedi’u creu i Gymru’r Haf hwn.

‘Dwndwr y Dŵr’ – gan BACA & Rhiannon Mair

Mae BACA (Butetown Arts & Culture Association) yn gwahodd Cymru gyfan i gymryd rhan yng Ngharnifal eiconig Butetown! Yn tynnu ar fotiffau hudolus ac atgofion gwerin o Gymru ac o gwmpas y by di ddod a stori am awyddau, dewisiadau a chanlyniadau atoch. Trwy wisgoedd, cerddoriaeth a dawns y Carnifal, bydd BACA yn archwilio themâu mudo a dadleoli, y rhai sy’n cael eu gadael gartref a’r rhai mewn limbo.

Dyddiadau i Ddod
Sad 9 Gorffenaf – Dyddiau Dawns, Abertawe @ 13:00
Sul 24 Gorffenaf – Sblash Mawr, Casnewydd
Sad 30 Gorffenaf – Eisteddfod, Tregaron (Sioe Agoriadol)
Sad 6 Awst – Eisteddfod, Tregaron
Iau 11 Awst – Y Neuadd Les, Ystradgynlais
Mer 31 Awst – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Facebook / Gwefan

‘Ceri-Ann Arian!’ gan Kitsh & Sync Collective a TeiFi

Symudwch drosodd Dale Winton, mae ‘na Frenhines Ddisgownt newydd yn y dref! Strafagansa theatr gerdd a chomedi hynod ryngweithiol, wedi’i pherfformio yn Gymraeg. Mae ‘Ceri-Ann Arian!’ yn archwilio ‘ffenomen’ Treth Binc, prynwriaeth a rhywedd trwy groesawu cynulleidfaoedd i mewn i fyd sianeli siopa coegwych, sioeau gêm a chynnyrch rhy ddrud.

Dyddiadau i Ddod
Sad 9 Gorffenaf – Dyddiau Dawns, Abertawe @ 12:25 / 14:00 / 15:30
Sad 23 Gorffenaf – Sblash Mawr, Casnewydd
Gwe 5 Awst – Eisteddfod, Tregaron
Sad 6 Awst – Eisteddfod, Tregaron
Sad 13 Awst – Dawns yn y Parc, Parc Gwledig Pen-bre
Sad 10 Medi – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwefan / Facebook / Instagram

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Articulture wrth i ni gyhoeddi fwy o ddyddiadau ar gyfer y gwaith newydd hwn ledled Cymru – #AgorAllan2022

Facebook – @ArticultureWales
Twitter – @Articulture_
Instagram – @articulture_wales
Cylchlythyr

Delwedd 1 – Butetown Arts & Culture Association
Delwedd 2 – Kitsch & Sync Collective

Caiff y comisiynau #AgorAllan2022 gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru eu cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

 

 

Skip to main content