Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl

By 4th Tachwedd 2022Uncategorised @cy
Two women are dancing on an outdoor stage with blue sky, clouds and flags behind them

Dyddiad cau: Dydd Iau 17 Tachwedd am 5pm

Yn dilyn y daith lwyddiannus eleni, mae Articulture, mewn cydweithrediad â Surge, unwaith eto yn cynnig cyfle i artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i wneud cais am fwrsariaeth a chyfle i ddatblygu artistiaid ‘Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl’.

Manylion Llawn

Bydd y bwrsarïau yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Y nod yw creu detholiad o ddarnau celf awyr agored newydd a fydd yn teithio i wyliau ym mhob un o’r pedair cenedl yn ystod haf 2023: Gŵyl Surge (yr Alban mewn partneriaeth ag Articulation), Spraoi (Iwerddon mewn partneriaeth ag ISACS), y Dyn Gwyrdd (Cymru mewn partneriaeth ag Articulture) ac Out There (Lloegr mewn partneriaeth ag Outdoor Arts UK).

Bydd yr artistiaid/cwmnïau a ddewisir yn cael cyllideb o £5000 tuag at greu’r darn o gelf awyr agored arfaethedig, mentora proffesiynol gan y gwyliau a phob un o rwydweithiau’r bartneriaeth, a phreswyliad pedwar diwrnod yn Ormidale House yng nghefn gwlad Argyll, yr Alban ym mis Ionawr 2023. Darperir costau teithio, llety a per diem ar gyfer y cyfnod preswyl a’r daith.

Gofynion:

  • Cyflwyno syniad ar gyfer darn o gelf awyr agored newydd ar raddfa fach
  • Rhwng 1-3 perfformiwr yn y darn (rhaid i bob artist gael ei gadarnhau gan yr ymgeisydd cyn gwneud cais)
  • Bod yn addas ar gyfer perfformio mewn mannau trefol a meysydd glas
  • Rhaid i bob perfformiwr fod ar gael ar gyfer y preswyliad yn Argyll (22 – 26 Ionawr 2023)
  • 29 – 30 Gorffennaf (Gŵyl Surge, yr Alban)
  • 4 – 6 Awst (Gŵyl Spraoi, Iwerddon)
  • 17 – 20 Awst (Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cymru)
  • 15 – 17 Medi (Gŵyl Out There, Lloegr)

Byddwn yn cynnig:

  • Preswyliad strwythuredig mewn lleoliad gwledig yn yr Alban ynghyd â mentora proffesiynol gan Surge, Out There, Spraoi Studios ac Articulture mewn creu, cynhyrchu, marchnata a gwneud ffilmiau gorila.
  • Cyllideb o £5000
  • Ffi o £100 y dydd (fesul artist) yn y gwyliau
  • Costau teithio, llety a per diem.

Mae Bwrsariaeth y Pedair Cenedl yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a gallu, ac yn annog y rheini o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn y celfyddydau awyr agored.

Noder: mae maint a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn dibynnu ar ganlyniadau ariannu penodol.

I wneud cais:

Ar gyfer artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, e-bostiwch gynnig byr (tua 500 gair) a bywgraffiad byr ar gyfer pob perfformiwr/cydweithiwr (tua 100 gair yr un) i: zoe@articulture-wales.co.uk.

Gall eich cais fod ym mha bynnag fformat sydd fwyaf hygyrch i chi – gallai hynny fod yn y gair ysgrifenedig, fideo byr neu recordiad llais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Zoe Munn trwy zoe@articulture-wales.co.uk neu ffoniwch / anfonwch neges destun / WhatsApp i 07939 052899

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich syniad cyn i chi wneud cais a gallwn eich cefnogi i wneud eich cais – cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a gallwn drefnu sgwrs

Ar gyfer artistiaid yn Lloegr anfonwch neges i jacob@outtherearts.co.uk

Ar gyfer artistiaid sydd wedi’u lleoli yn yr Alban anfonwch neges i alan@surge.scot

Ar gyfer artistiaid sydd wedi’u lleoli yn Iwerddon cysylltwch â info@spraoi.com

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o Gymru yw 5pm ar ddydd Iau 17 Tachwedd

Skip to main content