Mae’r pedwar artist nesaf wedi eu dewis ar gyfer BŴM! sef llwybr ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd.
Mae’n bartneriaeth gydag Oxford Contemporary Music (OCM) ac Tŷ Cerdd a bydd yn cefnogi artistiaid i ddatblygu sgiliau ymarferol a chreadigol ac i ddysgu am ymgorffori gwaith sy’n ymateb i’r hinsawdd wrth weithio.
Ella Roberts
Francesca Simmons
Gwen Siôn
Teifi Emerald
Bydd 4 o grewyr cerddoriaeth dethol yn derbyn £1500 yr un am gymryd rhan, ynghyd â chefnogaeth uniongyrchol gan gynhyrchwyr creadigol ac aelodau tîm OCM, Articulture a Tŷ Cerdd dros gyfnod o 9 mis. Bydd cyfres o gyfarfodydd yn ystod y cyfnod yn dod â’r garfan ynghyd i rannu dysg, syniadau a gwaith sydd ar y gweill ac i glywed gan arbenigwyr yn y maes.
Mae hyn oll yn bosibl oherwydd cefnogaeth Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS.