ARTSCAPE – Ysgogi pobl i weithredu’n greadigol dros newid hinsawdd ledled Powys yn ystod COP26

By 29th Hydref 2021Uncategorised @cy

Yn ystod mis Hydref a Thachwedd, bydd ARTSCAPE yn fyw ac yn annog cymunedau ym Mhowys, Canolbarth Cymru, i gysylltu â’u hamgylchedd drwy gyfres o brofiadau celfyddydol creadigol sy’n llawn dychymyg.

Bydd rhaglen gorfforol a rhaglen rithiol ARTSCAPE yn ysgogi trafodaethau creadigol ynghylch yr hinsawdd a chamau gweithredu i bawb o bob oed. Cynigir y rhaglen mewn tri lleoliad ym Mhowys – Aberhonddu, Llandrindod a Choedwig Hafren ger Llanidloes. Bydd y rhaglen yn cyd-ddigwydd â Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (Cop26) yn Glasgow rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd 2021.

Gweler drosolwg isod. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen dilynwch @ArtscapePowys ar Twitter, Instagram a Facebook, a chofiwch daro golwg ar y wefan www.artscape.wales.

Mae ARTSCAPE yn bartneriaeth greadigol rhwng gwasanaeth diwylliannol a chelfyddydau Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture. Ariennir ARTSCAPE gan Arwain, Rhaglen LEADER ym Mhowys, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys.

Mae ARTSCAPE yn gwahodd ymarferwyr creadigol i weithio gyda theuluoedd yn Aberhonddu, i ystyried effaith Newid Hinsawdd ar Island Fields – ardal leol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth, ond sydd dan fygythiad o lifogydd. Ymhlith yr artistiaid mae Charlie Ward, digrifwr a bardd, sy’n chwilio am yr elfennau doniol o’r Argyfwng Hinsawdd, a Matt Cook, yr artist sain, sy’n creu recordiadau aml-haenog yn Island Fields gyda grŵp o gynhyrchwyr ifanc. Mae The Brecknockshire Collective yn defnyddio celf, crefft a symudiad i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn gysylltu ag Island Fields – a’r posibilrwydd o ddylanwadu’n gadarnhaol ar ein llesiant. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau yn Y Gaer a Theatr Brycheiniog yn ystod Hanner Tymor, ac yn ystod y bythefnos y cynhelir Cop26 ar ddechrau mis Tachwedd. Bydd y gelf newydd fydd yn cael ei chynhyrchu’n cael ei harddangos yn ystod mis Tachwedd.

Mae ARTSCAPE yn gwahodd ymarferwyr creadigol i weithio gyda’r gymuned leol yn Llandrindod, er mwyn ystyried effaith yr argyfwng hinsawdd ar ein llesiant, ar leoedd ac ardaloedd.
Defnyddir trafodaethau a sesiynau symudiad dan arweiniad o fewn eu gwaith â’r gymuned leol i ymateb i’r ardal o amgylch Llyn Llandrindod, a bydd perfformiad yn cael ei greu o hyn. Arweinir y gwaith gan yr Artist Fin Jordao, awdur a biolegydd creadigol rhyngwladol; Marla King, artist dawns o Gymru ac un sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd a Clara Rust, dawnswraig o Gymru a chydweithredwr. Gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau a pherfformiadau archwiliol ar 23, 25 a 31 Hydref a 13 Tachwedd, ger Llyn Llandrindod, a bydd y man cwrdd yn yr Amffitheatr. 

Bydd bwrlwm yn cael ei ychwanegu at Goedwig Hafren gyda gwledd i’r llygad, gweithdai ac anturiaethau yn y goedwig ei hun, fel rhan o ARTSCAPE ar 6 a 7 Tachwedd. Bydd PuppetSoup yn cyflwyno ‘Puppetry of the Woods’ – yn cynnwys gweithdai cymunedol yn creu pypedau yn Llanidloes, a bydd hefyd yn creu llwybr o lwyfannau pyped i’r cyhoedd eu defnyddio yng Nghoedwig Hafren. Gwahoddir y cyhoedd hefyd i gyflwyno perfformiadau â phypedau yn seiliedig ar bynciau megis newid hinsawdd a’r goedwig.

Bydd Camilla Saunders, cyfansoddwr, yn gweithio gyda Jenni Barbieri, dawnswraig, i greu ‘Hidden Connections’ – gosodiad sain a pherfformiad dawns sy’n cyfuno synau a glywir yng Nghoedwig Hafren, adrodd stori a lleisiau disgyblion ysgolion lleol. Mae’r artist Billie Ireland yn cael ei hysbrydoli gan y broses o gasglu carbon (mae’r goedwig yn storio carbon ac yn ei atal rhag creu newid yn yr atmosffer). Bydd hi’n creu darn o gelf symbolaidd, claddu trysorau carbon ac yn dangos cynnydd ei gwaith yn fyw. Ceir hefyd sgyrsiau ac arddangosiad bio-olosg byw gyda Tony Davies yn ystod y penwythnos.

Delwedd – Brecknock Arts Collective

Skip to main content