ARTSCAPE – dathlu blwyddyn o gelfyddydau awyr agored wedi’u gwreiddio mewn cymunedau a thirweddau

By 13th Ebrill 2022Uncategorised @cy

Mae Articulture yn myfyrio ar flwyddyn o ARTSCAPE, prosiect celfyddydau awyr agored aml bartner ym Mhowys, wedi’i wreiddio mewn cymunedau a thirweddau lleol, yn dathlu ei gyflawniadau, ac yn edrych tua’r dyfodol.

“Cefais fy ysbrydoli gan y gwaith a gafodd ei greu. Roedd yna gydweithrediad a chysylltiad anhygoel rhwng artistiaid; roedd y prosiectau ar y tir yn hyfryd. Mae gan hwn y potensial i fod yn rhywbeth rhyfeddol”

Digwyddodd ARTSCAPE rhwng Gwanwyn a Hydref 2021. Roedd yn rhaglen fywiog o ddigwyddiadau a gweithdai celfyddydol, yn yr awyr agored yn bennaf, wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol a thirweddau, ac yn hybu archwilio creadigol o gysylltiadau ag eraill, gyda natur ac â’r amgylchedd. Gan ei fod yn digwydd yr un pryd â COP26 a pandemig COVID-19, mae wedi cwmpasu’r themâu llesiant, cysylltiad a’r synnwyr o gyfrifoldeb cyfunol am natur a’r amgylchedd.

Mae yna adroddiad am ARTSCAPE isod. Gallwch hefyd archwilio ARTSCAPE gan gynnwys ffilmiau byr, lluniau a chyfweliadau yma – https://artscape.wales

Partneriaeth greadigol ar draws Powys

Roedd y bartneriaeth a oedd yn tywys ARTSCAPE yn cael ei harwain gan Wasanaeth Celfyddydol a Diwylliannol Cyngor Sir Powys ond yn cwmpasu ystod eang o bobl gyda phrofiad helaeth o’r sir ac o’u meysydd arbenigol, gan gynnwys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture.

Digwyddodd ar draws Powys, gyda chlystyrau o weithgaredd mewn tri lleoliad ac o fewn cymunedau lleol yn ystod tymor yr Hydref 2021. Y lleoliadau oedd – Coedwig Hafren a phentrefi a threfi cyfagos yng Ngogledd Powys; Llyn Llandrindod a choetiroedd Llandrindod yng Nghanolbarth Powys; ac Island Fields a thref Aberhonddu yn Ne Powys.

Gwahoddiad ARTSCAPE

Roedd artistiaid a oedd yn cymryd rhan yn ARTSCAPE yn cael eu hannog i fanteisio ar themâu a ffyrdd o weithio a oedd, i lawer, yn cynhyrchu cyweithiau, dulliau, safleoedd a chynulleidfaoedd/ cyfranogwyr newydd. Mae sawl un yn archwilio’r rhain ymhellach gyda chomisiynau a chyweithiau newydd.

Cafodd cymunedau eu gwahodd i archwilio safleoedd cyfarwydd o’r newydd, i gyfrannu a rhannu eu straeon, mynegiannau ac ymatebion eu hunain, ac i ystyried yr amgylchedd lleol yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd ehangach. 

Tri o leoliadau a gweithgareddau ARTSCAPE

Yng Nghoedwig Hafren, arweiniodd Julie Ann Heskin, Cyd-gyfarwyddwr Articulture ‘Gwrandewch a Chreu’- uchafbwynt diwrnod cyfan artistiaid y goedwig. Yn dilyn diwrnod archwiliadol yn rhoi gwybodaeth sylfaenol, rhannodd yr artistiaid syniadau a dewiswyd tri chomisiwn newydd, gan ddod â’r goedwig yn fyw gyda sioe, gweithdai a pherfformiadau -‘The Source’ gan Billie Ireland, ‘Hidden Connections’ gan Camilla Saunders, a ‘Puppetry of the Woods’ gan Puppet Soup.

Yn Llandrindod ymgysylltodd yr artistiaid Fin Jordao, awdur a biolegydd creadigol trawswladol; Marla King, artist dawns o Gymru ac ymgyrchydd cyfiawnder hinsawdd a Clara Rust, dawnswraig mewn trafodaeth â chymunedau lleol gan arwain sesiynau symud, yn ymateb i dirwedd Llyn Llandrindod a’r coetir, yn arwain at gyfresi o berfformiadau cyhoeddus, gyda chymorth Sarah Ann Morton Cyd-gyfarwyddwr Articulture.

Mae ARTSCAPE yn gwahodd ymarferwyr creadigol i weithio gyda theuluoedd yn Aberhonddu, i ystyried effaith Newid Hinsawdd ar Island Fields – ardal leol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth, ond sydd dan fygythiad o lifogydd. Wedi eu harwain gan Ruth Lloyd Cynhyrchydd Cyswllt Articulture, ymhlith yr artistiaid roedd Charlie Ward, digrifwr a bardd a’i ‘Pharti Comedi Argyfwng Hinsawdd’ i blant, a Matt Cook, yr artist sain, a greodd recordiad aml-haenog “Chwilota Sain Aberhonddu” gyda grŵp o gynhyrchwyr ifanc. Defnyddiodd The Brecknock Arts Collective gelf, crefft a symudiad hefyd i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn gysylltu ag Island Fields – a’r posibilrwydd o ddylanwadu’n gadarnhaol ar ein llesiant gyda’r prosiect ‘’Stopiwch Edrychwch Gwelwch’.

Edrych tua’r dyfodol

Gan fyfyrio ar Articulture, gwelodd Julie Ann –

“Gan fod y prosiect hwn wedi bod ar ein hiniog yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaethau, yn y byd celf a’r amgylchedd naturiol ac yn gyfle i gymryd rhan yn COP26 yma yng Nghymru, mae wedi bod yn hudolus er gwaetha’r cyfnod byr o amser. Mae wedi bod yn ffordd wych o ddod i adnabod mwy o artistiaid, ac iddyn nhw gael cyfle i gydweithio â chymunedau ynghylch gofalu am ein tirweddau lleol a newid hinsawdd yma ym Mhowys. Rwy’n credu bod gan y celfyddydau lawer i’w gynnig o ran siapio, a phobl yn cael mynediad i’r pwnc heriol o newid hinsawdd, yn ogystal ag iechyd a llesiant, mae’n iaith y gallwn ni gyd ei rhannu ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud hynny.”

Mae gan y rhai sydd wedi ymwneud ag ARTSCAPE hyd yn hyn awch a dyhead i barhau i adeiladu ar nodau a chyflawniadau ARTSCAPE, gyda phrosiectau pellach i feithrin cydweithio dros gyfnod hirach o amser er mwyn datblygu cysylltiadau cryfach a mwy cynaliadwy gyda chymunedau a sefydliadau lleol. Cadwch lygad allan!

Darganfyddwch fwy am ARTSCAPE:

Archwiliwch ARTSCAPE drwy ffilm, lluniau a chyfweiladau – https://artscape.wales

Mae ARTSCAPE wedi’i ariannu gan gronfa Cysylltu a FfynnuCyngor Celfyddydau Cymru, ac Arwain, rhaglen LEADER Powys.

Skip to main content