Cynulliad Celfyddydau Awyr Agored Cymru 2022

By 21st Ionawr 2022Uncategorised @cy

Rhaglen ddisglair i gynhesu’r enaid ar ddechrau’r gwanwyn.

Yn 2022, bydd dwy ran i’r rhaglen, a gobeithiwn y bydd rhywbeth at ddant pawb –

* Gwahoddiad i archwilio a rhannu posibiliadau newydd gyda’n gilydd, gyda man hap – human happenings.

* Cynulliad bychan yn y Porthdy ym Mynyddoedd Cambria.

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn creu celfyddydau awyr agored – o gynhyrchwyr, rheolwyr canol tref, artistiaid a rhai sy’n gweithio yn yr amgylchedd naturiol i leoliadau, gwyliau, ecolegwyr, awdurdodau lleol a chyllidwyr.

Beth bynnag fo’ch cefndir neu anghenion, hoffem ichi deimlo’n gartrefol yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn – rydym yn croesawu sgyrsiau gyda chi ynghylch yr hyn sydd ei angen arnoch i gymryd rhan. Cysylltwch â ni – articulture-wales.co.uk/contact. O fewn Articulture ei hun, rydym yn dathlu ac yn cefnogi’r amrywiaeth yn ein tîm, gan gynnwys unigolion sy’n nodi eu bod yn Anabl ac yn Gwiar. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gweithgareddau hefyd yn gynhwysol.

ManHap am dro – Gwahoddiad creadigol i archwilio a rhannu

Ion/Chwef 2022, ledled Cymru

Ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni, mae’r fenter gydweithredol i artistiaid, man hap – human happenings, yn eich gwahodd i gynllunio taith yn yr awyr agored – mynd am dro neu reid. Taith i le sy’n eich ysbrydoli, lle gallech ddychmygu rhywbeth creadigol yn digwydd, gydag unigolyn neu unigolion o’ch dewis.

Yna, cewch eich gwahodd i rannu eich profiad gydag eraill mewn digwyddiad ar-lein arbennig a gaiff ei guradu gan ManHap, ar ddydd Gwener 25 Chwefror 11am – 1pm, i gyd-greu clwstwr newydd o syniadau a phosibiliadau ledled Cymru wrth inni gamu ymlaen i 2022.

Bydd eich taith yn dechrau gyda cherdyn post a anfonir atoch drwy’r post gan man hap.

Cewch fwy o wybodaeth am man hap a mynd ar eich taith eich hun yma

Cynulliad Celfyddydau Awyr Agored Cymru

Dydd Iau 3 Mawrth a dydd Gwener 4 Mawrth 2022, y Porthdy, Penffordd-las

Ymunwch ag eraill sydd â diddordeb mewn creu celfyddydau awyr agored byw yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mewn cynulliad deuddydd bychan yn y Porthdy ym Mynyddoedd Cambria. 

Bydd y cynulliad hwn yn dechrau creu lle i fflamau newydd gynnau’r tirlun creadigol yng Nghymru a thu hwnt wrth inni gamu i 2022.

Diwrnod 1 – dydd Iau 3 Mawrth – 9.30am – 5pm – ffocws ar Gelfyddydau Awyr Agored Cymru

Diwrnod o rannu cynlluniau a dyheadau, gan goginio a dawnsio gyda gwesteion arbennig, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Eisteddfod, Creu Cymru, Fio, Ffiwsar, Cadw, Green Man, AndNow, man hap – human happenings, Osian Meilir, June Campbell Davies a Lisa Heledd Jones, gyda’r opsiwn o swper a gweithgaredd gyda’r nos.

Dyma’r lle i rannu prosiectau, syniadau a chyfleoedd, a dechrau ailgysylltu, gan ymestyn ein meddyliau a’n cyrff, a pharatoi i gydweithio yn 2022.

Diwrnod 2 – Dydd Gwener 4 Mawrth – 9.30am – 9pm – DIVE – Digwyddiad Circostrada mewn cydweithrediad ag Articulture a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Ennill gwybodaeth a dirnadaeth newydd ynghylch creadigedd ac arferion sy’n ystyriol o ecoleg, drwy gyfres o sgyrsiau, teithiau cerdded a gweithdai.

*Gallwch lawrlwytho’r rhaglen yma*

*Manylion archebu yma*

Methu dod i’r gweithgareddau hyn? Byddwn yn rhannu syniadau, prosiectau a chyfleoedd ar-lein ar ein tudalen Facebook wrth iddynt ddigwydd, a byddwn yn gwahodd eraill i rannu hefyd. Cadwch olwg am y manylion – facebook.com/ArticultureWales

Byddwn hefyd yn darparu rhagor o gyfleoedd i gysylltu a chael eich ysbrydoli drwy gydol 2022.

I gael gwybod am y rhain, ymunwch â’n rhestr bostio drwy ein hafan – articulture-wales.co.uk.

Delwedd – Nic Finch @chameleonic

Skip to main content