Skip to main content

Mar Articulture yn gweithio gyda Sequoia i ddatblygu dyfodol cryfach a mwy cynaliadwy ar gyfer y sector. Rydym yn gwahodd unigolion allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, cyllidwyr, awdurdodau lleol, gwyliau, lleoliadau, sefydliadau addysg uwch a mwy, i rannu mewnwelediadau strategol a fydd yn llywio buddsoddiad a chefnogaeth yn y dyfodol.

Mae Articulture eisiau clywed eich profiad bywyd. Rydym yn casglu barn gan y bobl sydd yn gwneud i gelfyddydau awyr agored ddigwydd, artistiaid, gwirfoddolwyr, sefydliadau bach a grwpiau cymunedol, i lunio gwasanaethau a chefnogaeth sy’n adlewyrchu’r anghenion gwirioneddol ar lawr gwlad.

Arolwg Strategol (ar gyfer unigolion sy’n gwneud penderfyniadau, cyllidwyr a sefydliadau)
Ydych chi’n llywio dyfodol celfyddydau awyr agored yng Nghymru?

Mae Articulture yn esblygu ac rydym angen eich mewn welediadau strategol i ddatblygu ariannu a phartneriaethau cryfach.

15 munud (yn ddienw)| Dyddiad Cau: 7 Awst

Gall eich arbenigedd ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn datblygu’r modelau ariannu a seilwaith sy’n cefnogi’r sector allweddol hwn.

Arolwg Cymunedol (Artistiaid, ymarferwyr, grwpiau)
Ydych chi’n gweithio o fewn y celfyddydau awyr agored yng Nghymru? Mae eich llais yn bwysig.
Rydym yn casglu barn gan artistiaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i lunio cymorth gwell

10 munud (yn ddienw)| Dyddiad Cau: 7 Awst

Dyma’ch cyfle i gael dylanwad ar y ffordd y mae’r celfyddydau awyr agored yn cael eu hariannu, eu gwerthfawrogi, a’u cefnogi ar draws Cymru.

 

Llun: Oliver Stephens