Madame Ceski

Wedi’i lleoli yng nghefn gwlad gogledd Cymru, mae Madame Ceski (Francesca Simmons) yn creu profiadau awyr agored cyfranogol a chwareus sy’n dod â sain, symudiad a chysylltiad a’r byd naturiol ynghyd.

Mae Breathing, sef ei phrosiect cyfredol, yn sioe sain drochol yn yr awyr agored lle mae‘r rhai sy’n cymryd rhan yn gwisgo offerynnau wedi’u cynllunio’n arbennig sy’n creu sain drwy symudiad ac anadl. Gyda’i gilydd, daw’r cynulleidfaoedd yn berfformwyr ac yn wrandawyr, gan greu profiad torfol, rhyfeddol sy’n annog pobl i arafu, gwrando’n astud ac ailgysylltu â’u hamgylchedd. 

Drwy’r rhaglen Tyfu a Rhannu, mae Madame Ceski yn ystyried sut mae modd i’r gwaith ddod yn hygyrch ac yn barod i deithio wrth gynnal ysbryd chwareus sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ar yr un pryd.

CRABFISH

Beth sy’n digwydd pan fydd gwyddoniaeth dinasyddion, ecoleg, cerddoriaeth electronig a chimychiaid afon sy’n dawnsio yn gwrthdaro?

Mae CRABFISH yn gyfuniad o artistiaid, cerddorion, perfformwyr ac ecolegwyr o ganolbarth Cymru sy’n datblygu perfformiad awyr agored rhyngweithiol a ysbrydolwyd gan ansawdd dŵr a bioamrywiaeth. Caiff cynulleidfaoedd eu gwahodd i brofi dŵr, ymuno â’r perfformiad a gwylio cimychiaid afon enfawr yn ymateb drwy gerddoriaeth, symudiad a hiwmor swreal.

Drwy’r rhaglen Tyfu a Rhannu, mae CRABFISH yn archwilio sut all celf ysbrydoli chwilfrydedd, cyfranogiad a gweithredu amgylcheddol.

Vilhelmiina Sinervo (Vilus.art)

Mae’r crëwr ac artist syrcas Vilhelmiina Sinervo o Gaerdydd yn dod â’i chelfyddyd o gydbwyso ar raff a’i pherfformio awyr agored o’r Ffindir i Gymru.

Gyda’i chwmni Vilus.art, mae Vilhelmiina yn creu perfformiadau annisgwyl mewn mannau cyhoeddus, gan drawsnewid eiliadau cyffredin yn rhywbeth hudolus drwy symudiad cytbwys, clownio, dawns a chyfarfyddiadau acrobatig.

A hithau’n wreiddiol o’r Ffindir, mae Vilhelmiina yn dechrau pennod newydd yng Nghymru drwy’r rhaglen Tyfu a Rhannu, gan archwilio cysylltiad y gynulleidfa, byrfyfyrio strwythurol a llawenydd chwilfrydedd a rennir.

Spare Parts Co

Gwefreiddiol. Gwych.

Sioe stryd awyr agored hyfryd yw Pea Pea La Plume sy’n cynnwys paun robotaidd mewn drag, clownio, roboteg, llawenydd cwiar a digonedd o gyfranogiad gan y gynulleidfa.

Mae’r prosiect, a grëwyd gan Natasha McGhie, yn trawsnewid mannau cyhoeddus yn ddathliadau chwareus o greadigrwydd, technoleg a hunanfynegiant. Drwy’r rhaglen Tyfu a Rhannu, mae Spare Parts Co yn datblygu’r sioe ar gyfer teithio awyr agored a chyflwyno mewn gwyliau yn y dyfodol.

Humans Move

Cwmni dawns cynhwysol a phroffesiynol a arweinir gan anabledd yw Humans Move.

Mae ei waith cyfredol, Imaginary Lines, yn edrych ar y ffiniau anweledig sydd yn ein gwahanu ni a’r hyn a ddaw’n bosibl pan fydd y ffiniau hynny’n diflannu. Mae’r darn, sy’n cyfuno dawns gyfoes, theatr gorfforol a phrofiad personol, yn dathlu cyfeillgarwch, cysylltiad a chyd-ddynoliaeth.

Drwy’r rhaglen Tyfu a Rhannu, mae Humans Move yn datblygu cyfleoedd teithio, hygyrchedd ac ymgysylltiad cynulleidfaoedd wrth iddynt barhau i ddod â dawns gynhwysol i wyliau a mannau awyr agored ledled Cymru a thu hwnt.

Share