Mae Articulture yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan artistiaid a chwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n datblygu gwaith newydd ar gyfer perfformio yn yr awyr agored (er enghraifft theatr stryd, syrcas, dawns, pypedwaith, perfformiadau cerdded neu waith cyfranogol). Mae’r rhaglen hon ar gyfer gwaith sydd eisoes yn cael ei ddatblygu ac mae’n cynnig mentora, cefnogaeth gan gynhyrchydd, a’r cyfle i rannu gweithiau sydd wedi’u datblygu’n dda gyda rhaglenwyr a gwyliau mewn arddangosfa ddiwedd mis Medi 2026.
Rydym yn croesawu diddordeb gan artistiaid a chwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n gweithio yn yr awyr agored neu sy’n dymuno gwneud hynny. Anogir artistiaid awyr agored o bob math, gan gynnwys syrcas, theatr, dawns, pypedwaith, perfformiadau cerdded a gwaith cyfranogol, i wneud cais.
Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi artistiaid yn ystod gwanwyn a haf 2026.
Mae’n canolbwyntio ar:
- atgyfnerthu’r gwaith
- mentora
- cefnogi parodrwydd ar gyfer teithio neu gyflwyno’r gwaith yn y dyfodol
Mae’r rhaglen yn cefnogi artistiaid unigol a grwpiau o hyd at bedwar person ac yn dod i ben gydag arddangosfa ddiwedd mis Medi 2026. Bydd yr arddangosfa’n cysylltu artistiaid yn uniongyrchol â rhaglenwyr, cynhyrchwyr a gwyliau.
Gall artistiaid fod ar unrhyw gam o’u gyrfa. Rydym yn annog diddordeb yn benodol gan artistiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector celfyddydau awyr agored.
Rydym yn chwilio am waith sydd eisoes ar y gweill a fyddai’n elwa o gael cymorth i ddatblygu.
Dyddiad cau: Dydd Iau 4 Mehefin 2026, 5pm
Llun: Harry Pizzey: The Museum of Memorable Trees (Two Cats in the Yard Photography)




