Ymunwch â ni ar gyfer Arddangosfa Celfyddydau Awyr Agored Tyfu a Rhannu!

Dydd Mawrth 13 Hydref 2026
10.30am–2.30pm
Spit & Sawdust, Caerdydd

Dewch i brofi gwaith celfyddydol awyr agored sydd ar y gweill gan garfan o artistiaid sy’n cael eu cefnogi gan raglen Tyfu a Rhannu Articulture.

Gallwch ddisgwyl perfformiadau awyr agored, dawnsio a symudiad, robotiaid a mwy…

Mwynhewch y cyfle rhwydweithio hwn ar gyfer rhaglennwyr, cynhyrchwyr, gwyliau, lleoliadau, arianwyr, comisiynwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol celfyddydau awyr agored yng Nghymru.

Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru.


Llun: Spare Parts Co (Chuck Douglas Photography)

Share