Helpwch i lywio pennod nesaf y celfyddydau awyr agored yng Nghymru

Mae Articulture yn chwilio am aelodau Bwrdd newydd ar adeg gyffrous o newid a phosibiliadau.

Mae Articulture yn hyrwyddo’r celfyddydau awyr agored ledled Cymru, gan greu cyfleoedd a chynorthwyo i ddod â phrofiadau creadigol anhygoel i’r lleoedd y mae pobl yn byw, gweithio ac ymgynnull.

Rydym yn creu Bwrdd newydd i ddod â safbwyntiau, syniadau ac egni newydd i Articulture a helpu i lywio pennod nesaf y sefydliad.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan bobl sy’n angerddol dros y celfyddydau a thros Gymru, ac rydym yn croesawu’n benodol cymysgedd eang o brofiad, cefndiroedd a safbwyntiau. Byddai profiad mewn meysydd fel llywodraethu, cyllid, codi arian,datblygu busnes, y gyfraith, y Gymraeg a diwylliant Cymru, cynhwysiant a hygyrchedd, newid, neu’r sector celfyddydau awyr agored, yn hynod fanteisiol.

Dyma gyfle i ymuno ag Articulture ar adeg allweddol a chwarae rôl ystyrlon yn ei gamau nesaf.

Diddordeb? Byddem wrth ein bodd petaech yn cysylltu.

Anfonwch fynegiant byr o ddiddordeb atom yn dweud ychydig amdanoch eich hun i:

sarah@articulture-wales.co.uk / dyddiad cau: 14eg Hydref

Share