Taith newydd! Mwynhewch gelfyddydau newydd yn yr awyr agored yng Nghymru yr Haf hwn

By 16th Gorffennaf 2021Uncategorised @cy

Mae Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru ar ben eu digon i gyhoeddi dechrau taith sy’n cynnwys 25 dyddiad ar gyfer tri darn o waith celf awyr agored newydd sydd wedi’u creu yr Haf hwn.

Cafodd ‘Qwerin’ gan Osian Meilir ei ysbrydoli gan ddiwylliant clybiau Cwiar a phatrymau llyfn dawns werin – dawns werin Gymreig wahanol.

Mae ‘Bring me Sunshine’ yn cyfuno syrcas, adrodd stori ac ychydig o’r unigryw gan Splatch Arts gyda Leyton John – cofnod chwareus a theimladwy o brofiadau Leyton o fyw gyda sglerosis ymledol, a nodyn i’n hatgoffa ni ein bod ni’n gallu gweld y tu hwnt i’n ffiniau personol drwy wrando gyda chwilfrydedd a chydymdeimlad.

Mae ‘Afanc’ yn ein gwahodd i ddilyn bwystfil gwyllt, ond hardd, ar daith i ddod o hyd i ddŵr. Mae’n stori amgylcheddol daer sy’n cael ei hadrodd drwy glownio cyfoes, delweddau syfrdanol a synau unigryw gan f.a.b. – The Detonators – Tiago Gambogi a Maggi Swallow.  

Cliciwch yma i weld dyddiadau ac i archebuhttps://articulture-wales.co.uk/arddangos/?lang=cy

Delwedd – ‘Qwerin‘ – Osian Meilir – Llun – Becky Davies

Skip to main content