Guest blog – Pam na wnewch chi gwblhau MOOC?

By 30th Mehefin 2020Uncategorised @cy

Ym mis Ebrill a Mai ymunodd wyth o artistiaid a chynhyrchwyr o Gymru ac un o’r Eidal â’r tîm Articulture i ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o greu gwaith artistig mewn mannu cyhoeddus gyda chwrs ar-lein am ddim ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’. Yma mae Annie Grundy, Cyd-gyfarwyddwr Articulture, yn rhannu ei phrofiad o wneud y MOOC hwn (cwrs Massive Open Online), a’r datblygiadau annisgwyl ond cyffrous a ddilynodd, gan gynnwys parhad grwpiau astudio Cymru yn yr Haf a’r Hydref eleni.

Pam na wnewch chi gwblhau MOOC?

Beth ydych CHI yn ei wneud yn ystod dyddiau hir Covid? A allech chi gwblhau ‘MOOC’ gyda ni yn Articulture?

Mae fy mam a minnau wedi bod yn gwarchod ein hunain yn ystod y cyfnod clo, gyda labrador eithriadol o hen, cath un glust a Mr J yr aderyn du yn cylchu uwch ein pennau. Felly’n amlwg, rwy’n andros o brysur. Er gwaethaf hyn bu i mi ganfod yr amser i gwblhau MOOC ym mis Mai a phrofodd yn seibiant da o arddio (ai dim ond fi yw’r unig un sy’n gallu lladd planhigyn drwy gydnabod ei fodolaeth?) a’r cyfnod niwlog hwnnw a achoswyd gan Covid 19, ond mae hefyd wedi ysgogi rhai gweithredoedd cyffrous i Articulture – y byddaf yn eu trafod, yn ddiweddarach…

Crëwyd y MOOC (Cwrs Ar-lein Enfawr Agored) – sy’n dwyn y teitl ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus‘ – gan FAI AR – unig raglen hyfforddiant addysg uwch Ewrop sydd wedi ymroi’n gyfan gwbl i gelf mewn mannau cyhoeddus, ac mae’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a dysgu mwy ynghylch celf mewn man cyhoeddus. Bu iddynt weithio â chydweithwyr yn llwyfan IN SITU ledled Ewrop a sefydliad cenedlaethol Ffrainc Artcena i lunio’r cwrs arbennig hwn ac yna ei gyflwyno i unrhyw un ei gwblhau yn rhad ac AM DDIM.

Felly penderfynodd Articulture wneud y cwrs a gwahodd artistiaid a chynhyrchwyr o bob cwr o Gymru i wneud yr un fath – cwblhau modiwlau bob wythnos ar eu cyflymder eu hunain, cyn ymuno â ni am sgwrs ar Zoom. Roedd ein grŵp o 14 yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o bobl yn archwilio beth a olyga i greu mewn man cyhoeddus.

Mae’r cwrs yn dod mewn rhannau bach, sydd naill ai’n cael eu cyflwyno gan y ddau brif gyflwynydd neu gan ystod o gyfweledigion ledled Ewrop. Gellir ailchwarae adrannau’n hawdd ac mae trawsgrifiad wrth gefn os ydych yn dymuno ailedrych ar bethau. Rydych yn dilyn ar eich cyflymder eich hun ac os oes gennych oriau gweithio amrywiol ac anrhagweladwy fel fi, mae’n dderbyniol naill ai dilyn hanner awr rhwng sesiynau Zoom neu fwrw ati i gwblhau wythnos lawn o sesiynau yn ystod yr oriau hynny pan mae gweddill y tŷ yn cysgu!

Byd newydd o waith ac ysbrydoliaeth

Daw’r cyflwyniadau law yn llaw â nifer o enghreifftiau ysbrydoledig a hyfryd o waith, felly os ydych eisiau rhywbeth i dynnu eich sylw, mae digonedd o dyllau cwningod dengar i’w harchwilio!

Roedd tameidiau o waith gan artistiaid yr wyf eisoes yn gwybod amdanynt – yn benodol ‘Host’ gan Kate Lawrence Vertical Dance, dawns hip-hop ‘D-Construction’ a berfformiwyd ar ffens cyswllt cadwyn gan Dyptik a’r twyll gweledol enfawr ‘Mensonges Urbains’ gan Pierre Delavie. Ond roedd y rhan fwyaf o’r gwaith a ddangoswyd neu a ddyfynnwyd yn newydd i mi – newydd a chyffrous, newydd ac ysbrydoledig, newydd ac ysgogol, newydd a heriol.


D-Construction-Dyptik

Rwy’n dwyn i gof llwybr domino anferth, cerddorfa yn chwarae o falconïau pobl mewn bloc uchel, llysiau awgrymog ym marchnad Kabul… I mi, mae rhywbeth hynod ryddhaol o hyd am ganfod y celfyddydau mewn mannau na ddyluniwyd ar gyfer celf, lle mae’r ‘llwyfan’ yn fan cyhoeddus fel parc neu ganolfan siopa, mainc stryd neu draeth. Mae adran gyfan o’r MOOC sy’n canolbwyntio ar beth yw lle, y gellid, neu dylid ei roi i’r gynulleidfa wrth greu mewn man cyhoeddus.  Roeddwn wrth fy modd bod MOOC wedi ailddatgan fy ymdeimlad o ryddid mewn perthynas â’r celfyddydau mewn mannau cyhoeddus – ond hefyd yr anesmwythdra ac felly’r cyffro sy’n dod law yn llaw â hynny!

Host – Kate-Lawrence. Delwedd – Nick Young

Edrych tua’r dyfodol – stori ar y cyd ar gyfer y celfyddydau awyr agored yng Nghymru a’i ddyfodol

Cafwyd adborth gwych gan yr artistiaid a’r cynhyrchwyr a gwblhaodd y MOOC gyda ni a gwerthfawrogaf hefyd fod gwneud y cwrs wedi ein hysgogi ni yn Articulture i fwrw ati â dwy weithred allweddol y bu i ni siarad amdanynt o’r blaen, ond chafwyd amser i’w gwneud.

Yn gyntaf, bu i gwblhau’r cwrs ddangos i’n grŵp pa mor dda fyddai gweld hanes cyfoethog y celfyddydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru yn cael proffil a gydnabyddir yn fwy eang. O’n rhan ni yn Articulture, byddem yn hoffi cyfrannu at hyn drwy ddwyn ynghyd casgliad o rai o’r creadigaethau, profiadau a straeon sy’n ffurfio hanes y celfyddydau awyr agored yng Nghymru fel bod gennym ryw fath o glytwaith amrywiol a lliwgar, y gallwn ei ddathlu a’i hyrwyddo.

Yn ail, roedd un o’r ymarferion yn y MOOC yn gofyn i gyfranogwyr restru’r cyfleoedd dysgu a hyfforddi yr oeddent yn ymwybodol ohonynt yn eu rhanbarth neu wlad sy’n ymwneud â chreu mewn man cyhoeddus. Roedd cyfranogwyr ein grŵp yn gallu dodi sawl fflag ar y map ar gyfer colegau a chyrsiau ledled Cymru sy’n cynnwys elfen am y celfyddydau awyr agored – o ddawns i byped-waith, o syrcas i berfformio ar y promenâd. Er hynny sylwodd ein grŵp ar fylchau hefyd, felly rydym yn dechrau grŵp gweithredu addysg / hyfforddiant i weld sut y gallwn gael darlun mwy cyflawn o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd (ac mae’n rhaid i ni gydnabod efallai y bydd Covid 19 yn newid y darlun hwnnw) a dadlau o blaid sicrhau lle mwy canolog i greu mewn mannau cyhoeddus mewn addysg a hyfforddiant y celfyddydau.

Rwy’n edrych ymlaen at fwy o gyrsiau MOOC gyda dau grŵp astudio ‘Creu Mewn Mannau Cyhoeddus’ wedi’u lleoli yng Nghymru wedi’u trefnu ar gyfer yr haf a’r hydref hwn, a gynhelir gan Articulture mewn cydweithrediad â FAI-AR.

Mae cofrestru ar gyfer grŵp yr haf ar agor nawr, gyda’r cwrs yn dechrau ar 13 Gorffennaf. Rhagor o fanylion yma.

Wayfaring – And Now. Delwedd – Tony-Gill
Skip to main content