A ydych chi’n artist anabl yng Nghymru?
Mae Articulture, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn galw am unigolion creadigol anabl sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth i ymgeisio i wneud gwaith awyr agored newydd yn 2019.
Yn ogystal â chefnogaeth i greu’r gwaith newydd, bydd yr unigolyn creadigol a ddewisir hefyd yn derbyn mentora a’r cyfle i arddangos y gwaith.
Mae’r comisiwn yn un o dri chomisiwn strategol sydd dan brawf yn 2019 gyda’r nod o gynyddu amrywiaeth artistiaid, rhaglenwyr a chynulleidfaoedd yng Nghymru sydd ynghlwm â gwaith awyr agored. Mae eraill yn cynnwys gwaith ar y cyd ag unigolion creadigol sy’n gweithio yn yr Iaith Gymraeg, a’r rheiny sy’n perthyn i’r gymuned BAME (Croenddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig).
Lawrlwythwch wybodaeth a ffurflen gais yma
Gwybodaeth hawdd ei darllen a ffurflen gais yma
Rhaid i bob ymgeisydd hefyd lenwi ffurflen cyfle cyfartal
Dyddiad Cau 15 Ebrill 2019
Angen ysbrydoliaeth? Gweler comisiynau blaenorol gan Articulture a’i bartneriaid yma