26 Medi, 10am – 1pm @ Glan yr Afon, Casnewydd
Eleni bu i Articulture gefnogi creu pedwar darn o waith newydd gyda chymunedau a nodwyd gennym fel rhai sy’n cael eu tan-gynrychioli o ran celf awyr agored yng Nghymru, yn benodol y rhai a adnabyddir fe rhai Anabl neu BAME a’r rhai sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg. Crewyd y gwaith newydd yma ar y cyd â chwech o sefydliadau blaenllaw, gwyliau a lleoliadau celfyddydol. Erbyn hyn maent yn teithio ledled Cymru.
Hoffem barhau i greu cyfleoedd i gymunedau creadigol a dan-gynrychiolir ac rydym yn chwilio am eich mewnbwn chi i benderfynu ar ein dull o wneud hynny.
Mewn partneriaeth â Glan yr Afon, mae Articulture yn gwahodd y rhai sydd â diddordeb mewn chwarae rhan flaenllaw wrth rannu adborth a syniadau i ymuno â chydweithredwyr presennol mewn cylch gwaith.
Gyda’n gilydd byddwn yn myyfyrio ar y gwaith a wnaed hyd yma, gan gynnwys y rhwystrau presennol, cyn dychmygu ar y cyd beth yw’r posibiliadau ‘perffaith’ a sut fyddai’r ffordd orau o dorchi llewys i ddatblygu, cyllido a chynnal hynny.
Bydd yr adborth o’r diwrnod yn cael ei ddefnyddio gan Articulture i greu deilliannau pendant, creu cyfleoedd cyraeddadwy ac arloesol gydag eraill ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd o bob cefndir, i greu a mwynhau celf awyr agored yn 2020 a thu hwnt.
Mae celf awyr agored ar draws y tirlun eclectig yng Nghymru yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ddathlu a chefnogi cynhwysiant ac amrywiaeth i’r rhai sy’n creu ac i’r cynulleidfaoedd. Mae’r cylch gwaith hwn yn rhan o drafodaeth barhaus sydd yn agored i bawb gymryd rhan ynddi er mwyn pwyso a mesur a sicrhau y gallwn, gyda’n gilydd, wneud y mwyaf o’r posibiliadau di-ben-draw y gall celf awyr agored ei chynnig.
I sicrhau eich lle yn y drafodaeth, cysylltwch ag annie@articulture-wales.co.uk
Y digwyddiad hwn yw’r trydydd yn Sesiynau Haf 2019 Articulture, sy’n trafod cwestiynau cyfredol ledled Cymru. Caiff ei gynhyrchu gan Articulture a Glan yr Afon, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa’r Loteri Fawr a Chynulliad Cymru.