12:00 – 2:00, Sadwrn 3 Awst, AGORA, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst.
Ymunwch ag ymarferwyr celfyddydol blaenllaw Cymru Elen ap Robert, Marc Rees, Eddie Ladd ac aelod o dîm artistig yr Eisteddfod mewn sgwrs greadigol yn trafod sut gallwn greu a rhaglenni celfyddydau awyr agored newydd o safon uchel yng Nghymru.
Bydd y drafodaeth yn cael ei gynnal yng ngofod ‘AGORA’ sy’n adeilad dros dro wedi ei gomisiynu gan yr Eisteddfod (cefnogwyd gan Croeso Cymru) a’i greu gan Marc Rees mewn cydweithrediad â Jenny Hall a Tabitha Pope, a’i gynhyrchu gan Iwan Williams (ffiwsar). Bydd cinio ysgafn a PIMMS i ddilyn yng Nghaffi’r Theatrau.
Yn y prynhawn bydd cyfle i weld celf awyr agored ysbrydoledig fel rhan o raglen brysur yr Eisteddfod. Rhai awgrymiadau yw ‘The Hunt for the Twrch Trwyth’ gan Ruby Gibbens, wedi ei gomisiynu gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru am 2pm, ‘Shipwrecked’ gan Citrus Arts am 5pm, gorymdaith ac agoriad Agora am 6pm, a chyngerdd agoriadol ‘Y Tylwyth’ am 8pm.
Bydd y sgwrs yn y Gymraeg gydag offer cyfieithu ar y pryd ar gael.
I archebu tocyn, cysylltwch â rosie@articulture-wales.co.uk
Noder nad yw tocyn I’r maes yn gynwysiedig, a bydd angen prynnu tocyn I sicrhau mynediad. Mae modd archebu tocyn yma – https://eisteddfod.cymru/tocynnau
Dyma’r ail o sesiynau haf Articulture yn 2019 o ddigwyddiadau rhwydweithio gyda ymarferwyr blaenllaw yn trafod cwestiynau cyfoes mewn digwyddiadau allweddol ar draws Cymru. Cynhyrchwyd gan Articulture ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa’r Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru.
Llun – Keith Morris