A ydych chi’n artist sy’n dod i’r amlwg wedi’ch lleoli yng Nghymru ac yn awyddus i ddechrau ar eich arfer awyr agored neu ei ddatblygu yn 2019?
Mae Articulture, mewn cydweithrediad â Surge Scotland, yn cynnig cyfle unigryw i artistiaid newydd i greu darn o gelf awyr agored i’w deithio a’i berfformio yng Nghymru ac yn yr Alban.
Bydd cymorth ar gyfer y gwaith creu a theithio ar gael drwy fentora unigol gan Articulture, yn ogystal â chyfarfodydd ym mhob perfformiad.
Mae’r Comisiwn Artist y Dyfodol yn fenter newydd sbon gan Articulture.