Digwyddiad ‘Cysylltu a Datblygu: Celfyddydau Awyr Agored yng Nghymru’

By 17th Awst 2022Uncategorised @cy

Dydd Iau 29 Medi 2022
09:30 – 16:30
Chapter, Caerdydd

Ymunwch ag Articulture a WOAC am ddiwrnod o rwydweithio a chyflwyno hamddenol yng nghanolfan Chapter, Caerdydd, fel rhan o #AgorAllan2022.

Digwyddiad ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn celfyddydau awyr agored yng Nghymru – unigolion sydd ag egin syniad, unigolion sydd eisiau ymestyn eu rhwydwaith, unigolion sydd â gwaith yn barod i’w gyflwyno.

Bydd cyfleoedd strwythuredig a chyfleoedd rhydd ar gael i gysylltu ag artistiaid, cynhyrchwyr a rhaglenwyr eraill. Bwriad y diwrnod yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu cysylltiadau newydd, traws-sector rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rhaglenwyr.

Bydd cyfleoedd ar gael i gymryd rhan mewn gweithgareddau –

  • Rhwydweithio ar garlam (cyfarfodydd 4 munud o hyd, ar arddull canlyn cyflym)
  • Cyflwyno ‘pitch’ (cyflwyno eich syniad neu ddarn gorffenedig)
  • Cyfarfodydd bychan CCC (trafod syniadau gyda chynrychiolydd CCC)
  • Marchnad Weledol (lle i nodi eich syniadau, sbarduno sgwrs)

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn creu a rhaglennu celfyddydau awyr agored.

Bydd cynrychiolwyr o Articulture, WOAC (Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru) a Chyngor Celfyddydau Cymru yn mynychu’r digwyddiad.

Cofrestru

Mae’r digwyddiad hwn am ddim. Bydd angen i unigolion sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad gadw eu lle drwy Eventbrite, *yma*.

Gan fod y capasiti’n gyfyngedig, os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiad, rydym yn gofyn ichi wneud cais am ‘ad-daliad’ am eich tocyn drwy Eventbrite cyn gynted â phosibl.

Bwrsariaethau teithio

Gallech fod yn gymwys am fwrsariaeth teithio i fynychu’r digwyddiad hwn, yn enwedig os ydych yn byw y tu hwnt i Gaerdydd ac/neu yn teimlo na fyddai modd ichi fynychu heb gymorth ariannol. Mae bwrsariaethau teithio ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Cysylltwch â carys@articulture-wales.co.uk am sgwrs.

Rhwydweithio ar garlam

Mae ‘rhwydweithio ar garlam’ yn broses strwythuredig sy’n hwyluso cyflwyniadau a sgyrsiau rhwng pobl. Byddwch yn cael eich paru â hyd at 6 person gwahanol, a byddwch yn cael 4 munud gyda phob un i gyflwyno eich hun, eich gwaith ac i gyfnewid manylion cyswllt.

I gofrestru ar gyfer elfen rhwydweithio ar garlam y diwrnod, ticiwch y blwch priodol wrth archebu eich tocyn drwy Eventbrite.

Cyflwyno ‘Pitching’

Dyma gyfle ichi gyflwyno ‘prosiectau ar y gweill’ i bobl a allai gomisiynu, cyflwyno neu gefnogi’r prosiect mewn ffyrdd eraill.

Os ydych chi’n dymuno cyflwyno prosiect neu syniad yn y digwyddiad hwn, cofrestrwch eich diddordeb drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Bydd deg artist/cynhyrchydd yn cael eu gwahodd i wneud cyflwyniad yn y digwyddiad hwn. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddewis cyfranogwyr sydd ar wahanol gamau eu gyrfa, o wahanol gefndiroedd a gwahanol leoliadau yng Nghymru.

Gwybodaeth am cyflwyno –
* Bydd pob cyflwyniad yn rhedeg am uchafswm o 7 munud
* Gallech wneud eich cyflwyniad yn unigol, fel deuawd neu fel grŵp
* Argymhellir ichi ddefnyddio deunyddiau gweledol, ffilm neu luniau yn eich cyflwyniad
* Bydd recordiad fideo o’r cyflwyniadau’n cael ei wneud at ddefnydd y cyfranogwyr.

Amserlen –
* Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich diddordeb yn y cyflwyno yw hanner dydd, dydd Llun 5 Medi
* Byddwn yn rhoi gwybod ichi am y canlyniad erbyn dydd Iau 8 Medi fan bellaf
* Bydd cyflwyniadau dewisol yn cael gwahoddiad i fynychu ‘sesiwn datblygu cyflwyniad’ gydag Articulture dros Zoom, yn ystod yr wythnos 19-23 Medi. Bydd hwn yn gyfle i ymarfer eich cyflwyniad a chael adborth, wythnos cyn y digwyddiad.

Ofynion mynediad

Beth bynnag fo’ch cefndir neu anghenion, hoffem ichi deimlo’n gartrefol yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn – rydym yn croesawu sgyrsiau gyda chi ynghylch yr hyn sydd ei angen arnoch i gymryd rhan. Cysylltwch â Carys am sgwrs – carys@articulture-wales.co.uk / 07504501507

O fewn Articulture ei hun, rydym yn dathlu ac yn cefnogi’r amrywiaeth yn ein tîm, gan gynnwys unigolion sy’n nodi eu bod yn Anabl ac yn Gwiar. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gweithgareddau hefyd yn gynhwysol.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn cysylltwch â Carys Mol ar carys@articulture-wales.co.uk neu ffôniwch / anfon neges destun / WhatsApp ar 07504501507

Caiff y digwyddiad yma gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru eu cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, fel rhan o #AgorAllan2022.

 

Credyd Llun: Dan Boyinton

Llun yn dangos Osian Meilir a Sita Thomas yn cyflwyno yn Cynulliad Celfyddydau Awyr Agored Cymru 2022, yn The Lodge – Staylittle.

Skip to main content